Pont Llannerch: Cyngor Sir Ddinbych yn 'llusgo'u traed'
- Cyhoeddwyd
Daeth tua 100 o bobl ynghyd rhwng pentrefi Trefnant a Thremeirchion ddydd Sadwrn i alw ar Gyngor Sir Ddinbych i beidio ag oedi wrth godi pont yn yr ardal ar ôl i'r un ddiwethaf gael ei dinistrio.
Cafodd Pont Llannerch, sy'n cysylltu'r ddwy ardal, ei dinistrio gan Storm Christoph ym mis Ionawr 2021 ar ôl i goeden dderw ddisgyn arni.
Ers hynny mae trigolion sydd am deithio rhwng y ddau bentref yn gorfod teithio pum milltir yn ychwanegol, gydag un perchennog busnes yn dweud bod hi wedi gorfod cau ei chaffi.
Dywed Cyngor Sir Ddinbych eu bod yn "deall rhwystredigaeth trigolion" a'u bod yn diweddaru pobl gyda chylchlythyr newydd.
Gydag arwyddion, drymiau a chlychau roedd 'na brotestwyr ar ddwy ochr y bont ddydd Sadwrn yn galw am weithredu.
Roedd gan Jane Marsh siop goffi lwyddiannus gerllaw o'r enw Ffynnon Beuno.
Ond gyda thrigolion o ardal Trefnant, sy'n arwain at ardaloedd poblog fel Llanelwy, yn methu teithio'n rhwydd i ardal Tremeirchion, fe welodd yr elw'n gostwng gan arwain at y penderfyniad i gau.
"Doedd o ddim yn benderfyniad anodd yn ariannol, ond yn emosiynol, mi oedd," meddai.
"Mae pobl yma'n rhwystredig. Da' ni ddim yn deall pam ein bod ni dal yn y sefyllfa yma ers mis Ionawr 2021.
"Mae'n costio pobl lot o bres i ddefnyddio siopau, y siop sglodion a'r Tweedmill. Pam dydi o heb gael ei wneud?!"
Mae'n debygol y gallai pont gyda dwy lôn gael ei hagor yn lle pont Llannerch, a oedd yn 200 oed medd y cyngor, ond mae hyn wedi arwain at bryderon yn lleol y gallai pobl osgoi'r ardal yn gyfan gwbl.
Dywedodd y Cynghorydd Cymuned Dewi Davies fod Cyngor Sir Ddinbych yn llusgo'u traed.
"Y gwir ydy, da' ni wedi cael llond bol," meddai.
"Fe ddoth y bont 'ma i lawr bron i ddwy flynedd yn ôl, a da' ni heb symud ymlaen yn rhy bell ers hynny.
"Mae'r cyngor sir wedi gwneud addewid i ailadeiladu'r bont ar y sail bod nhw'n gallu ffeindio'r arian.
"Mae sôn am godi pont gyda dwy lôn. Da' ni ddim eisiau un felly. Un [lôn] oedd hon ac roeddan ni'n hapus - mae hynny'n lot rhatach.
"Da' ni wedi disgwyl mor hir a da' ni'n gweld y costau'n mynd fyny - ella bod ni'n bellach rŵan nag oeddan ni yn y cychwyn!"
Gyda'i chi, Alfie, roedd Cath Easton ymhlith y protestwyr yn galw am newid ac ar y cyngor i weithredu.
"Ma' pobl isio pont i gael ei rhoi fyny. Mae'n cymryd lot o amser i fynd o gwmpas," meddai.
"Dim jest i ni, ond i ffermwyr ac i bawb yn y pentref - maen nhw wedi colli pres yn Nhrefnant a 'di pobl methu dod yma!"
Yn ôl Ms Easton mae busnesau'r ardal ar eu colled, a hynny'n cael effaith enfawr ar yr ardal.
Yn ôl Cyngor Sir Ddinbych maen nhw'n deall rhwystredigaeth pobl yn lleol, gan ddweud eu bod nhw'n cynnig diweddariadau mewn cylchlythyr newydd .
Dywedodd llefarydd bod archwiliadau tir a'r gwaith dylunio yn mynd rhagddo, a'u bod yn deall awydd y gymuned i weld y bont yn cael ei hailgodi.
Ychwanegodd y byddai'r cyngor yn gweithio gyda'r gymuned er mwyn dod o hyd i ddatrysiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2021