Bws trydan i geisio ateb i broblemau parcio Ogwen

  • Cyhoeddwyd
Y bws wennol trydan
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y bws wennol trydan yn dechrau ar ei thaith yn swyddogol o ddydd Iau nesaf, 21 Gorffennaf

Mae partneriaeth gymunedol yn gobeithio bydd bws trydan yn darparu hwb economaidd tra hefyd yn lliniaru rhywfaint ar broblemau parcio.

Ers dechrau'r pandemig, fel gweddill Eryri, mae llawer mwy o bobl wedi bod yn dod i gerdded i ardal Bethesda.

Ond mae hynny'n dod a phroblemau mawr wrth i bobl barcio'n flêr ar ochr yr A5 ger Llyn Ogwen.

Bwriad Partneriaeth Ogwen yw cael pobl i barcio ym Methesda ac yna defnyddio'r bws i gyrraedd y mynyddoedd.

Y gobaith wedyn yw byddant hefyd yn ymweld â siopau'r dref tra ar eu hymweliad.

Buddion gwyrdd

Dywedodd Donna Watts, sy'n gweithio i'r bartneriaeth, fod y bws newydd hefyd o fudd i'r amgylchedd.

Disgrifiad o’r llun,

Donna Watts: 'Gobeithio bydd 'na lot o ddefnydd ohono'

'Bydd y bws yn mynd dair gwaith yn olynol, bob dwy awr rhwng y gwasanaeth T10 a gobeithio bydd 'na lot o ddefnydd ohono," meddai.

"Yn ddiweddar mae na lot o broblemau parcio i fyny wrth ymyl Llyn Ogwen, so da ni'n gobeithio fydd hyn yn helpu gyda'r gor barcio sydd yna.

"Mae'r bws wennol yn un sy'n cael ei phweru gan drydan adnewyddadwy, felly'n wyrdd iawn i'r gymuned a'r amgylchedd."

Gobaith Huw Davies, sydd hefyd yn rhan o Bartneriaeth Ogwen, yw bydd y cynllun yn dod a hwb economaidd i Fethesda hefyd pan fydd mwy o ymwelwyr yn parcio eu ceir yno i gael mynd ar y bws wennol.

Disgrifiad o’r llun,

Colin Jeffreys yn gyrru'r bws ar hyd yr A5 ger Llyn Ogwen

"Bwriad y bws wennol ydi darparu gwasanaeth lle mae pobl yn medru parcio a chael lle i barcio yn y pentref …ella cael rhyw fymryn o neges yn y siopau wedyn i fyny at pen Llyn Ogwen a dod lawr wedyn.

"Gobeithio mynd i un o'r tafarndai lleol neu siop fel bod ni fel cymuned yn cael rhywfaint o fudd allan o'r ymwelwyr, achos fel arall (maen nhw) jyst yn gwibio i fyny ar A5."

'Lot o angen rhoi hwb i'r lle 'ma'

Pan holwyd rhai o berchnogion busnes y dref am eu barn o'r cynllun, roedd y gefnogaeth yn amlwg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nicola Williams o siop harddwch Copa yn cefnogi'r cynllun, gyda'r gobaith fydd yn hwb i fusnesau'r dref

Dywedodd Nicola Williams, sy'n gweithio yn siop harddwch Copa: "Mae 'na lot o angen rhoi hwb i'r lle 'ma. Gobeithio neith nhw wario yma…stopio yn Caffi Seren drws nesa…yn y siopa' fel y Becws a ballu'"

Roedd y sioprwaig, Ann Peel, yn cytuno bod angen denu mwy o bobl i fewn.

"Dwi'n meddwl bod o'n syniad fflipin gret…mae o'n ideal…ond y peth ydi does na ddim byd yn Bethesda i ddenu pobl yma yn nagoes.

"Toes na'm siopa', mae'r rhan fwyaf o siopau wedi cau lawr, does na'm llawer o ddim byd yma.

Disgrifiad o’r llun,

Ann Peel: "Does na ddim byd yn Bethesda i ddenu pobl yma yn nagoes."

"Beth sydd angen ydi trio cael busnesau i ddod i mewn i'r pentref….be arall fedra'i ddweud'.

Bydd y bws wennol yn dechrau ar ei thaith yn swyddogol o ddydd Iau nesaf, 21 Gorffennaf, am chwech diwrnod yr wythnos, heblaw am dyddiau Mercher, tan ddiwedd Hydref.

O fis Tachwedd at ddiwedd Mawrth bydd ar gael at ddefnydd y gymuned.

Pynciau cysylltiedig