Sinema yn cau lai na 24 awr ar ôl cynnal Gŵyl Ffilm Iris

  • Cyhoeddwyd
Premiere Cinema CaerdyddFfynhonnell y llun, Google

Mae cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Iris yn "hynod bryderus" am ddyfodol sinemâu ar ôl cyhoeddiad y bydd un o rai Caerdydd yn cau - lai na 24 awr ar ôl cynnal yr ŵyl.

Premiere Cinema, sinema pum sgrin yng nghanolfan siopa Capitol ar Heol y Frenhines, oedd prif leoliad Gŵyl Ffilm Iris rhwng 11-16 Hydref.

Ond ddydd Llun, fe ddywedodd y cwmni fod y penderfyniad i gau wedi ei wneud gyda "chalon drom".

Mewn datganiad, dolen allanol, dywedodd y cwmni eu bod yn dymuno "diolch i bob un ddaeth i'n sinema annibynnol a gwylio ffilmiau gyda ni".

Diolchodd y cwmni hefyd "i'n cwsmeriaid ffyddlon, wnaeth barhau i'n cefnogi drwy gydol cyfnod caled ein diwydiant".

'Ddim yn syndod'

Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Iris, Berwyn Rowlands oedd un o'r cyntaf i glywed am benderfyniad Premiere Cinema i gau.

"Roedden ni wedi cynnal ein parti ar ddiwedd yr ŵyl yno ar nos Sul a doedd yr un o'r staff i weld fel bo' nhw'n gwybod am y penderfyniad," meddai.

Ond ychwanegodd nad oedd y newyddion yn sioc enfawr iddo.

"Ar ôl diflaniad Gŵyl Ffilm Caeredin a chau'r sinema Filmhouse yno ac yn Aberdeen mae rhywun yn ofni fod 'na broses yn digwydd ar hyn o bryd," meddai Mr Rowlands.

"Ac mae pawb yn cofio am drafferthion Cineworld sydd wedi gorfod benthyg llawer iawn o arian i gario 'mlaen - felly na, 'di o ddim yn syndod."

Disgrifiad o’r llun,

Sefydlodd Berwyn Rowlands Wobr Iris 16 o flynyddoedd yn ôl - mae'r ŵyl yn dathlu ffilmiau LHDTC+

Mae arferion gwylio ffilmiau a chyfresi yn y cartref wedi newid yn sylweddol, meddai Mr Rowlands, proses gafodd ei gyflymu gan gyfnodau clo'r pandemig.

Ond mae ffactorau eraill ar waith, meddai.

"Mi fyddai'n annheg i awgrymu mai'r pandemig ydy'r bai i gyd," meddai.

"Mae 'na ffactorau sydd yn effeithio ar y sinemâu fel arferion gwylio pobl gyda thechnoleg well yn y cartre', ond mae 'na ffactorau eraill fel costau ynni.

"Mi o'n i'n clywed yn ddiweddar am berchnogion sinemâu annibynnol sydd methu fforddio i gynhesu eu hadeiladau, wel dydi hynny ddim yn mynd i ddenu pobl yno nacdi, felly ma' rhaid i mi dd'eud mod i'n hynod bryderus am le 'da ni'n mynd."

Mae BBC Cymru wedi gofyn i New River Retail, perchnogion Canolfan Siopa Capitol, am ymateb i'r cyhoeddiad.

Pynciau cysylltiedig