Pedwerydd aelod teulu o Gaerdydd wedi marw yn Bangladesh

  • Cyhoeddwyd
Husnara Islam

Mae menyw a gollodd ei gŵr a'u dau o blant oherwydd gwenwyn carbon monocsid honedig yn Bangladesh wedi marw.

Bu farw Husnara Begun o Gaerydd yn yr ysbyty yn Dhaka fore Mercher, bron i dri mis wedi'r digwyddiad.

Bu farw ei gŵr, Rafiqul Islam, 51, a'u mab, Mahiqul, 16, yn fuan wedi iddyn nhw gael eu darganfod yn anymwybodol mewn fflat yn rhanbarth Sylhet ar 26 Gorffennaf.

Tua wythnos yn ddiweddarach, bu farw eu merch, Samira Islam, 20.

Fe gafodd eu mab arall, Sadiqul Islam, 24, driniaeth yn yr ysbyty ond cafodd ei ryddhau yn fuan wedyn.

Roedd y teulu, sydd o ardal Glanyrafon yng Nghaerdydd, wedi teithio i Bangladesh i ymweld â theulu ac wedi bwriadu aros am ddeufis.

Fe agorodd yr heddlu ymchwiliad i lofruddiaeth yn y lle cyntaf cyn awgrymu fod y marwolaethau wedi eu hachosi gan nam generadur.

Pynciau cysylltiedig