Bangladesh: Mam o Gaerdydd 'yn parhau'n sâl iawn'

  • Cyhoeddwyd
Sadiqul Islam ac Husnara BegumFfynhonnell y llun, Runner Media/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sadiqul Islam eisiau dod â'i fam Husnara Begum yn ôl i'r DU er mwyn iddi wella

Mae mam o Gaerdydd - gollodd dri aelod o'i theulu wedi achos posib o wenwyno gan garbon monocsid - yn parhau "yn sâl iawn," medd ei mab.

Bu farw Samira Islam, 20, ei thad 51 oed, Rafiqul, a'i brawd 16 oed, Mahiqul ym mis Gorffennaf wedi iddyn nhw gael eu darganfod yn anymwybodol mewn fflat yn nwyrain y wlad.

Bu'n rhaid i Husnara Begum a'i mab Sadiqul Islam, 24, gael triniaeth yn yr ysbyty.

Dywedodd Mr Islam bod angen i'w fam ddychwelyd i'r DU er mwyn gwella.

Roedd y teulu, o ardal Glan-yr-Afon Caerdydd, ar wyliau yn ardal Osmaninagar ger dinas Sylhet.

Ffynhonnell y llun, Runner Media/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Rafiqul Islam, 51, a Mahiqul Islam, 16, ar ol cael eu darganfod yn anymwybodol mewn fflat

Yn ôl yr heddlu, fe wnaeth swyddogion ymweld â'r fflat ac fe ddywedodd Ms Begum a Mr Islam wrthyn nhw bod yna eneradur diffygiol yn yr adeilad.

Dywedodd Mr Islam bod ei fam wedi cael sgan CT am ei bod yn sâl, a bod meddygon wedi dweud bod y gwres yno yn effeithio arni'n sylweddol.

"Mae hi'n sâl iawn, iawn," meddai.

"Dw i eisiau mynd â hi yn ôl i'r DU cyn gynted â phosib a chael triniaeth yno os oes angen."

Ychwanegodd: "Dw i angen tystysgrifau marwolaeth fy nhad, fy mrawd a fy chwaer gan Lysgenhadaeth Prydain cyn gynted â phosib er mwyn i fi allu hedfan yn ôl i'r DU a chael triniaeth, neu i weld a fydd fy mam yn gwella ar ei phen ei hun mewn tywydd llai poeth."

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu: "Rydym ni'n cynnig cymorth consylaidd i deulu Prydeinig yn dilyn digwyddiad ym Mangladesh ac rydym ni mewn cysylltiad â'r awdurdodau lleol."

Pynciau cysylltiedig