Teyrngedau i Cledwyn Jones - un o Driawd y Coleg
- Cyhoeddwyd
Yn 99 oed bu farw Cledwyn Jones, oedd fwyaf adnabyddus fel aelod o Driawd y Coleg.
Cafodd y triawd poblogaidd ei ffurfio yng Ngholeg Prifysgol Bangor yn 1945.
Fe fuont yn perfformio ar lwyfannau nosweithiau llawen ar draws Cymru gan gyhoeddi sawl record a pherfformio ar y rhaglen radio boblogaidd Noson Lawen.
Un o Dal-y-sarn yn Nyffryn Nantlle oedd Cledwyn Jones, ac wedi cyfnod gyda'r awyrlu aeth i Goleg Prifysgol Bangor ac yno y cyfarfu â dau aelod arall y triawd poblogaidd - Meredydd Evans (Merêd) a Robin Williams.
Fe ddaeth y tri yn gyfeillion oes.
'Cymaint o hwyl yng nghwmni Cled'
Ar ddiwedd ei gwrs fe dreuliodd Cledwyn Jones dair blynedd fel athro yn ei hen ysgol ym Mhen-y-groes, cyn symud fel athro addysg grefyddol a cherddoriaeth i Ysgol Bechgyn y Friars, Bangor.
Yn 1961 penodwyd ef yn ddarlithydd yn Adran Gymraeg Coleg y Santes Fair, Bangor i ddysgu Cymraeg a threfnu cerddoriaeth ar gyfer y gwasanaethau yn y capel.
Cyn ymddeol treuliodd gyfnod byr fel darlithydd yn Adran Addysg y Brifysgol, Bangor.
"Roedd e wrth ei fodd gyda cherddoriaeth eglwysig, emynau traddodiadol, caneuon gwerin a'r plygain," meddai'r Parchedig Wynne Roberts a fydd yn gwasanaethu yn ei angladd.
"Roedd cymaint o hwyl yng nghwmni Cled. Roedd o'n addoli yn yr eglwys ym Mangor pan ddos i ei 'nabod gynta' a bu'n hynod o dda wrtha i wedi i mi gael fy ordeinio.
"Roedd o'n mwynhau sôn am ei gyfnod yn canu i Driawd y Coleg - roedd o wrth ei fodd yn canu gyda Merêd a Robin.
"Roedd ganddo lais arbennig, roedd o'n gymorth mawr gyda'r canu plygain. Yn y blynyddoedd diwethaf byddai'n dod ataf i'r gwasanaethau yng nghapel Ysbyty Gwynedd gan ei fod yn byw yn ymyl ac fe fydden ni'n sgwrsio am hir wedi'r oedfa.
"Dwi'n cofio ei weld yn gwenu bob tro â glint yn ei lygaid wrth iddo glywed fi yn ei ddisgrifio fo i ddoctoriaid fel yr original boy band!
"Roedd ganddo gryn ddiddordeb yn fy nynwarediadau o Elvis a petai'n gweld bod ryw raglen am Elvis fe fyddai'n sicr o roi gwybod. Cymeriad hynod annwyl a cherddorol."
'Arwyr' i Hogia'r Wyddfa
Wrth gofio amdano dywedodd Arwel Jones o Hogia'r Wyddfa mai Triawd y Coleg oedd eu harwyr mawr nhw fel grŵp.
"Roedden nhw'n arbennig - lleisiau ac harmoni gwych gan y tri.
"Yr hyn oedd yn braf eu bod yn cynhyrchu deunydd gwreiddiol - ac nid efelychu deunydd Eingl-Americanaidd fel roedd pobl yn ei wneud yr adeg hynny.
"Fe dyfon ni fyny yn eu sŵn i ddweud y gwir - nhw heb os oedd eu'n harwyr ni, a chyfraniad Cledwyn fel y ddau arall yn gwbl wych."
Ychwanegodd mab Cledwyn, Bryn, bod cerddoriaeth yn hynod o bwysig i'w dad a'i fod wastad yn siarad gydag afiaith am ei ddyddiau yn canu gyda Thriawd y Coleg.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2015