Tân gwyllt: Galw am wahardd llusernau awyr yn llwyr
- Cyhoeddwyd
Mae'r naturiaethwr Iolo Williams yn galw am wahardd llusernau awyr yn llwyr wrth i undeb amaethwyr rybuddio'n erbyn eu defnydd ar noson tân gwyllt.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn apelio ar bobl i beidio gadael i esgleulustod neu anwybodaeth achosi trasiedi, gyda nifer o beryglon i anifeiliaid a phlant o ddefnydd tân gwyllt a llusernau.
Mae'r undeb yn atgoffa pobl fod llusernau wedi eu gwahardd ar dir cyhoeddus gan bob awdurdod lleol yng Nghymru, ac y gallan nhw fod yn angheuol i anifeiliaid os ydyn nhw'n eu llyncu.
Dywedodd Iolo Williams y dylid gwahardd llusernau'n "gyfan gwbl".
Perygl i anifeiliaid
Mae tân gwyllt yn gallu rhoi braw i anifeiliaid fferm ac anifeiliaid anwes, ac mae UAC yn galw ar bobl i fod yn ystyriol a pheidio â'u tanio yn agos atyn nhw.
Ond mae'r undeb hefyd yn rhybuddio'n benodol am lusernau oherwydd nad oes modd rheoli i ble maen nhw'n mynd.
Dywedodd y swyddog polisi Teleri Fielden: "Mae skylanterns yn enwedig yn beryglus am bod ni wedi ffeindio nhw yn y caeau, just cyn i'r anifeiliaid allu eu bwyta nhw.
"Oherwydd bod nhw'n blastig a ddim yn cael eu torri lawr, os ydyn nhw'n cael eu bwyta, 'di'r anifeilaid ddim yn gallu eu treulio nhw."
Ychwanegodd: "'Dach chi'n rhyddhau nhw i'r awyr, maen nhw'n edrych yn ddel wrth fynd fyny, ond does 'na ddim digon o feddwl am be sy'n digwydd ar yr ochr arall, boed hynny i anfeiliaid anwes, neu i'r tir neu i stoc fferm. Mae angen bod yn ystyriol."
Mae 'na beryg y gallai llusernau achosi tân hefyd, am bod fflam yn llosgi tu mewn i gragen bapur denau.
Yn 2020 bu farw dros 30 o anifeiliaid gan gynnwys epaod a mwnciod prin yn Sŵ Krefeld yn yr Almaen, wedi i lusernau ddechrau tân yn yr adeilad oedd yn eu cartrefu.
Mae Iolo Williams yn galw am eu gwahardd.
"Maen nhw'n bethau sy'n beryg bywyd i fywyd gwyllt yn ogystal ag anifeiliaid fferm ac anifeiliaid anwes," meddai.
"Mae 'na lawer o eisamplau ble mae anifeiliaid wedi cael eu lladd ganddyn nhw.
"Ryw ddwy flynedd yn ôl mi gafodd nifer o anifeilaid mewn sŵ yn yr Almaen eu lladd mewn tân oedd wedi'i ddechrau gan lusernau papur.
"Mae hynny'n dangos pa mor beryg ydyn nhw. Mae isio eu gwahardd nhw'n gyfan gwbl."
Cadw yn ddiogel
Beth ydy'r cyngor i bobl sydd ag anifeiliaid anwes felly?
Mae'r undeb yn cynghori perchnogion cwn a chathod i sicrhau fod ganddyn nhw sglodyn micro a bod y manylion wedi eu diweddaru erbyn noson tân gwyllt, rhag ofn iddyn nhw fynd ar goll.
Mae'r milfeddyg yn ardal Abertawe, Meleri Tweed, yn cytuno: "Yn anffodus mae gan lawer iawn o anifeiliaid anwes ofn tân gwyllt."
"Mae'r broblem wrth gwrs yn cael ei gwaethygu gan dân gwyllt swnllyd iawn, a gyda phobl yn eu defnyddio nhw dros gyfnod hir yn yr hydref, a chyfnodau eraill o ddathlu."
Cyngor Meleri Tweed yw y dylai pobl fwynhau tân gwyllt mewn arddangosfeydd swyddogol yn hytrach na'u tanio yn eu gerddi.
Mae'n annog perchnogion anifeiliaid ofnus i gysylltu â'u milfeddyg o flaen llaw.
"Mae'n bwysig i unrhyw un sy'n pryderu am eu hanifeiliaid i gysylltu â'u milfeddyg cyn gynted â phosib am gyngor a, ble'n addas, meddyginiaeth," meddai.
"Hefyd mae pethau y gallan nhw ei wneud er mwyn cadw eu hanifeiliad yn ddiogel - mynd am dro cyn ei bod hi'n tywyllu, cadw cathod i mewn dros nos a symud cawell cwningod neu foch cwta tu mewn i adeilad os yn bosib."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2017