Galw am fwy o ymatebwyr cyntaf ar gyfer cymunedau gwledig
- Cyhoeddwyd
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi lansio ymgyrch genedlaethol i gael mwy o bobl i wirfoddoli fel ymatebwyr cyntaf, neu First Responders.
Yn dilyn galwad gan y cyhoedd, maen nhw'n aml yn cael eu gyrru allan gyntaf i ddigwyddiadau tra bod ambiwlans ar y ffordd.
Mae'r gwasanaeth yn cael ei weld fel un arbennig o bwysig yng nghymunedau gwledig Cymru.
Mae hyn oherwydd y gwaith teithio ychwanegol a'r nifer o gartrefi anghysbell.
'Rhoi rhywbeth yn ôl'
Mae Rhys Tudur yn byw yn Llanrwst ac yn aelod o dîm Ymatebwyr Cyntaf Uwch Conwy.
Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Dwi'n licio meddwl bod gen i sgiliau allai helpu'r gymuned i roi rhywbeth yn ôl.
"'Dan ni mewn lle eitha' gwledig. Mae'n neis gwybod os oes rhywbeth yn digwydd bod gen i'r sgiliau â'r offer gan y Gwasanaeth Ambiwlans i helpu yn lleol.
"'Dan ni'n mynd allan ddydd a nos ymhob tywydd fel mae'r galw'n dod."
Mae aelod arall o'r tîm, Lowri Jones, yn dweud ei bod hi hefyd yn falch o gael helpu'r gymuned.
Mae hi wedi achub bywyd fel rhan o'i gwaith fel ymatebwr cyntaf.
"Dwi wrthi ers tua naw mlynedd. Dwi'n falch bo fi'n cael rhoi rhywbeth yn ôl. Mae pobl mor falch pan ma' nhw angen rhywun, bod ni'n troi fyny," meddai.
"Mae'n gallu bod yn heriol iawn ond ti'n dod o'r alwad yn teimlo bod ti wedi helpu'r teulu neu'r claf."
'Nifer wedi gadael y tîm'
Dywedodd Tomos Hughes, rheolwr y tîm dros Ddyffryn Conwy ac ardal Uwch Aled, bod angen mwy o wirfoddolwyr yn ei ardal o a thrwy Gymru.
"Oes, 'dan ni isio mwy i ymuno efo'r tîm," meddai.
"Yn anffodus mae 'na nifer wedi gadael y tîm... profiadau teuluol a hefyd y pandemig.
"Wedyn mae'r nifer wedi mynd lawr, ond rŵan mae gennym ni recruitment yn ardal Dyffryn Conwy a hefyd drwy Gymru gyfan, lle mae o'n rhoi siawns i rywun ymuno efo'r ymatebwyr cyntaf a dod at y tîm a rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned."
Mae'r ymatebwyr cyntaf yn cael hyfforddiant llawn gan y Gwasanaeth Ambiwlans. Mae manylion ar sut i ddod yn ymatebwr cyntaf ar gael ar eu gwefan, dolen allanol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2021