Llŷr Alun: Lle mae o rŵan?
- Cyhoeddwyd
Rhedeg hanner marathon, rhedeg label cerddoriaeth, codi pres i elusennau, cynnal gigs... Rhai o anturiaethau diweddaraf Llŷr Alun.
Holltwyd barn ymhlith cynulleidfa cyfres Am Dro ar S4C flwyddyn a hanner yn ôl pan wnaeth yr artist a'r cerddor Llŷr Alun o Sling ger Bethesda fynd adref gyda £1,000.
Roedd pobl wedi eu cythruddo ar ôl iddo gipio'r wobr gan ddefnyddio ei ddull o roi marciau isel i'w gyd-gystadleuwyr er mwyn ennill. Ar y llaw arall roedd eraill yn clodfori 'dafad ddu' Cymru am ei fuddugoliaeth ysgubol.
Ond be mae Llŷr Alun yn gwneud y dyddiau yma, gofynnwch chi? Sut mae'n edrych yn ôl ar Am Dro? A be ydi ei neges i'r byd?
'Hilarious'
Mae Llŷr bellach yn byw yng Nghaerdydd lle mae'n gweithio mewn dwy swydd - mewn cegin bwyty ac yn mynd a threlar coffi o gwmpas parciau'r ddinas.
Sut mae'n edrych yn ôl ar Am Dro tybed?
"Wel, 'swn i'n licio os fysa pobl Cymru mor disappointed fod ganddon ni food banks dros y wlad i gyd ag oeddan nhw yn cwyno am raglen ar teli," meddai.
"Rhywun yn curo £1,000 pan mae 'na track and trace system werth biliynau 'di mynd i'r cwmnïau ma a dim trace o lle ma'r pres 'di mynd. Ma hynna'n shocking.
"Oni'm yn meindio'r ymateb, oni'n gweld o yn hilarious, jest odd Mam 'di ypsetio 'chydig bach ond oni'm yn bothered fy hun.
"Os 'swn i'n neud o eto 'swn i'n rhoi un allan o ddeg i bob un ohonyn nhw a hefyd 'swn i ddim yn cwcio Sunday dinner efo Yorkshire puddings gluten free ac anghofio nhw yn y popty. 'Swn i 'di prynu'r bwyd o'r pub."
'Peidiwch â trio rhy galad'
Yn ei amser sbâr mae Llŷr yn yn cynnal gigs, yn rhedeg label cerddoriaeth a, pan mae'n gallu, yn codi arian i elusennau.
Yn ddiweddar mi redodd hanner marathon Caerdydd gan godi £620 - dros dwbwl ei darged o £250 i elusen Gig Buddies, a hynny drwy ddulliau paratoi anarferol i ddweud y lleiaf.
"'Swn i yn recomendio half marathon i unrhyw un achos one week training plan fi oedd… day one - cael yn absolutely chwil gachu yn Venice, day two - same, day three - fflïo yn ôl o Venice wedyn golchi llestri am 10 awr, day four - day off, wedyn y fifth day nes i weithio 10 hour shifft a chael KFC, wedyn day six nes i weithio 10 hour shifft a byta McDonalds a KFC, a chael pump can o Corona.
"Wedyn nes i wneud y marathon diwrnod wedyn… so, peidiwch â thrio rhy galad!"
"O'n i 'di gwneud 20,000 steps y diwrnod cynt jysd yn gwaith yn front of house ac wedyn ar ôl gwneud y marathon oedd steps fi yn tua 35,000 so doedd o ddim hynna faint yn fwy."
Gorffennodd yr hanner marathon mewn amser addawol iawn o ddwy awr ac wyth munud ac mae'n falch o godi arian i elusen sy'n agos at ei galon.
Meddai Llŷr: "Mae'r achos yn bwysig i fi achos mae Mam a Dad 'di gweithio yn y mental health sector.
"Mae o'n dangos dylia pawb gael y cyfla i wneud be maen nhw isio gwneud ac mae Gig Buddies yn providio rhywun efo anabledd efo partner fel bo' nhw yn gallu mynd i gigs a ddim methu allan."
Ffordd arall mae Llŷr yn codi arian i elusennau ydi trwy werthu crysau-t a phosteri: "Ond does 'na neb isio Bob Geldof Cymraeg felly dw'i ddim yn licio bragio am y peth," meddai.
Recordiau Noddfa
Fel cerddor mae mynd i gigs a chreu cerddoriaeth yn rhan fawr o fywyd yr artist. Sefydlodd label Recordiau Noddfa sy'n cynnwys bandiau fel 3 Hŵr Doeth, Pasta Hull a'i fand yntau, Crinc, sydd wrthi'n recordio eu halbwm cyntaf yn y Buarth - sef stiwdio DIY y label mewn shipping container yng Nghaerdydd.
"'Dan ni hefyd jyst iawn a seinio MC Bunch of Nicnacs ond dydi o ddim cweit wedi seinio contract eto achos mae 'na dispute am faint mae o'n cael ei dalu am releasio'r albwm," meddai Llŷr.
"Dwi'n edrych ymlaen at ryddhau mwy o betha, a fydd y website fyny cyn bo hir."
Mae Llŷr wedi bod yn gyfrifol am gynnal llu o ddigwyddiadau cerddorol dros y blynyddoedd ac mae'n falch o allu cynnal mwy eto wedi cyfnod distaw Covid-19, gan ddechrau yng Ngŵyl y Llais, 26-30 Hydref 2022.
Ar nos Sul yr ŵyl yng Nghanolfan y Mileniwm Caerdydd - sydd â pherfformiadau gan John Cale, Cate Le Bon a Black Midi - mae Noddfa yn cael llwyfan gyfan fydd yn rhoi platfform i Pasta Hull, 3 Hwr Doeth, Melin Melyn, HMS Morris a Crinc.
Hefyd mae ganddo noson Hosan Lawen yn Neuadd Ogwen ar 17 Rhagfyr ble bydd 3 Hŵr Doeth, Melin Melyn, Papur Wal, KIM HON, Pys Melyn a Crinc yn perfformio.
'Llonydd'
Mae Llŷr dal yn ddryslyd hyd heddiw am ymateb pobl yn sgil Am Dro, meddai:
"Mae priorities pobl bach dros y lle os ydyn nhw'n cwyno am rywun yn curo rhaglen teledu lle'r point o wneud y rhaglen ydi curo."
Ond mae o wedi symud ymlaen gyda'i fywyd ac mae'n gobeithio gall bawb arall wneud hynny hefyd… Er, dydi o ddim yn swnio yn dasg mor hawdd chwaith.
"Dwi'n byw yng Nghaerdydd rŵan, so dwi'n cal bach o lonydd, ond os dwi'n mynd i Glôb (Bangor) neu 'wbath maen nhw fatha 'O Llŷr ga'i lun?'; 'dw'i fatha 'Na, dwi'm yn foi am selfies'.
"Ond wnaeth 'na rhywun ddod ata fi mewn bar yng Nghaerdydd a deud 'Dwi'n 'nabod ti o rywle… dim ti yw'r (gair anweddus) 'na off Am Dro?' ag o'n i fel 'Ia, that's the one!'"