Ateb y Galw: Elinor Gwynn
- Cyhoeddwyd
Elinor Gwynn sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Hywel Griffiths yr wythnos diwethaf.
Mae Elinor yn ymchwilydd ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn edrych ar y berthynas rhwng iaith a'r amgylchedd - dau beth sydd wedi bod ynghlwm wrth ei bywyd a'i gwaith ers blynyddoedd. Enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol y Fenni yn 2016 ac mae hi'n aelod o fwrdd Archwilio Cymru ar hyn o bryd.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Gweld pobl yn cael eu llusgo gerfydd eu gwallt gan aelodau o'r heddlu yn ystod protest iaith y tu allan i garchar Caerdydd.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Bod ar ben Mynydd Enlli liw nos, pan oeddwn i tua 14 oed, yn gwylio adar drycin Manaw yn dychwelyd i'w nythod ar ôl bod allan ar y môr drwy'r dydd. Clywed eu sŵn annaearol yn y tywyllwch i gychwyn, yn dod yn nes ac yn nes, ac yna'u gweld fel rhyw gysgodion llwyd yn disgyn yn glewt o'n cwmpas - pob un yn gwybod yn union at ba dwll yn y ddaear yr oedden nhw'n anelu drwy'r düwch.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Y darn tir yng ngogledd Sir Benfro rhwng Nanhyfer a thraeth Abermawr (ger Tremarchog) - y teimlad o fod adre.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Chwilfrydig, myfyriol, munud-olaf.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Adegau yn hytrach na digwyddiadau sy'n dueddol o aros yn y cof. Y profiadau 'na o fod gyda ffrindiau, teulu neu gyd-weithwyr a rhyw chwerthin dwl yn codi o nunlle bron wrth i rywbeth sbarco. Gall fod yn unrhyw beth, gall ddigwydd unrhyw bryd - y ffaith ei fod yn annisgwyl ac yn ddigymell yw un o'r pethau sy'n arbennig am y profiad. Ac mae'n anodd cofio weithiau beth yn union achosodd y chwerthin yn y lle cyntaf.
Ond mae rhywun yn cofio'r lleoliadau a'r amgylchiadau - gwrando pregeth yng nghapel bach Soar y Mynydd gyda Chlwb Carafanwyr Cymru flynyddoedd yn ôl, ymweliad ag oriel ger Wdig gyda fy mam, fy nhad yn hel atgofion dros ginio yn y Sloop ym Morthgain, mynd i weld gardd Aberglasne llynedd gyda fy ffrind Elin, trafod enwau Cymraeg ar rywogaethau yng nghartref Duncan Brown yn Waunfawr……gormod i'w rhestru. Mae 'na fap chwerthin wedi ei serio ar fy nghof ac mae meddwl am unrhyw un o'r lleoliadau hyn a'r atgofion ynghlwm wrthyn nhw yn codi gwên.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Mynd am dro hir yng ngogledd Sir Benfro. Dechrau wrth Garnedd Meibion Owen, a cherdded i lawr drwy warchodfa hyfryd Coed Tycanol, yna dringo'n ôl i gopa Carn Ingli. Picnic o frechdanau caws a Marmite yn fan'na, a joio'r golygfeydd, wedyn bwrw 'mlaen tuag at Fynydd Dinas. Darllen chwip o lyfr yn haul y prynhawn, myfyrio a chofio am amserau da a phobl annwyl - wedyn mynd i gysgu dan y sêr mewn rhyw lecyn bach cysgodol, gyda sŵn hoff draciau cerddoriaeth fy mywyd yn chwarae yn fy nghlustiau.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Bore 'ma, wrth sylweddoli bod ein ci bach olaf ar fin trengi, a dim digon o nerth ar ôl ynddi hi i roi un curiad cynffon o groeso wrth i mi ddod i'r gegin. Mae dagrau wedi dod yn rhwydd wrth ffarwelio gyda chŵn dros y blynyddoedd. Un o'r cerddi cyntaf erioed i mi ddysgu ar gof, pan o'n i'n ddim o beth, oedd Mot gan Desmond Healy. Mae'n sôn am farwolaeth ci defaid a doedd ond rhaid i mi ddweud (neu glywed yn fy mhen) y llinellau 'Codai i'm llaw ei bawen/ Gain wead o liw'r gneuen/ Fy nghi hoff, a llyfu 'ngên' i deimlo dagrau yn cosi - ac roedd hynny hyd yn oed cyn i mi gael ci!
O archif Ateb y Galw:
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Gweithio gormod.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Am gwestiwn anodd. Mae llyfrau gwahanol wedi apelio ar wahanol adegau, ac am resymau gwahanol. Mae'r tŷ yn flerwch o lyfrau - sypiau o rai sydd ar eu hanner, a rhai sy'n aros i gael eu darllen. O blith y llyfrau sydd ar y gweill ar hyn o bryd dwi'n cael blas mawr ar Nigh-No-Place, sef cyfrol o gerddi gan Jen Hadfield, ac wedi darganfod ambell drysor bach o'r newydd yn Atgofion Mab y Mynydd gan Mathonwy Hughes (diolch i griw Yr Orsaf ym Mhenygroes am sbarduno'r diddordeb gyda thaith dywysedig wych ychydig o fisoedd yn ôl).
Ond mae darllen mapiau yn rhoi llawn cymaint o bleser â darllen llyfrau. Dwi wrth fy modd gyda mapiau - rhai hen a newydd - ac wedi dotio arnyn nhw erioed. Mi alla i dreulio oriau di-ben-draw yn eu hastudio nhw, yn trio deall a dehongli yr hyn y maen nhw'n ei ddweud am dirwedd, lleoedd a hanes.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Nain a Taid Corwen, Mamgu a Thadcu Abergwaun. Er mwyn cael clywed eu lleisiau a'u straeon, a chael gwell gafael ar ddarnau o hanes sydd yn hedfan fel gwawn o gylch ein pennau, ddwy genhedlaeth yn ddiweddarach.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Fe fues i'n fascot unwaith i dîm cenedlaethol bowlio dan do yr Alban.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Dwn i ddim am bwysig, ond mae'n gofnod o garreg filltir. Fy niwrnod cyntaf yn fy swydd gyntaf erioed, fel warden yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ne Ceredigion a gogledd Penfro. Ro'dd hi'n garreg filltir o fath arall hefyd, gan mai dyma'r tro cyntaf yng Nghymru i ferch gael ei phenodi i swydd o'r fath.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Chris Watson, sy'n gyfrifol am recordio sain ar gyfer cyfres Green Planet David Attenborough. Roedd gwrando arno'n siarad am ei waith y noson o'r blaen, ac yn disgrifio'r ffordd yr oedd e'n llwyddo datgelu byd cyfrin planhigion drwy recordio synau sydd y tu hwnt i'n clyw ni yn codi'r awydd i ddysgu set newydd o sgiliau maes.