'Seicodrama Brexit tu ôl i gythrwfl San Steffan'
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wedi dweud bod y cythrwfl yn San Steffan yn ganlyniad i "'seicodrama' chwe blynedd o Brexit".
Dywedodd Liz Saville Roberts mai "celwyddau" oedd wrth wraidd yr argyfwng yn San Steffan, gan greu "gwactod o atebolrwydd".
Mewn araith yn ystod cynhadledd ei phlaid fe alwodd am ail-ymuno â'r farchnad sengl a'r undeb tollau.
Cyhuddodd Llafur o barhau'n ymroddedig i gadw "rhwystrau masnach enfawr".
'Cael gwared o'r Ceidwadwyr am byth'
Mae Plaid Cymru, sy'n cynnal ei chynhadledd flynyddol yn Llandudno, wedi galw am etholiad cyffredinol wedi i Liz Truss roi'r gorau i'r awenau ddydd Iau, gan sbarduno gornest arweinyddiaeth.
Ddydd Gwener dywedodd Mr Price y byddai Cymru'n dod yn annibynnol yn cael "gwared" o'r Ceidwadwyr "am byth".
Roedd Plaid wedi cefnogi aros yn yr UE yn refferendwm 2016, gan hefyd alw'n ddiweddarach am ail refferendwm.
Pleidleisiodd Cymru i adael yn 2016 o 52% i 47.5%.
Mae Ms Saville-Roberts, sy'n AS Plaid dros Ddwyfor Meirionnydd, wedi cyflwyno mesur San Steffan i wahardd celwydd mewn gwleidyddiaeth.
"Beth sydd wrth wraidd anhrefn San Steffan? Celwydd.
"Mae celwydd Brexit wedi hollti'r blaid Dorïaidd, a oedd wedyn yn gorfodi cymunedau a theuluoedd i droi yn erbyn ei gilydd."
Bu i Ms Saville Roberts hefyd honni bod Brexit "wedi torri'r cysylltiad rhwng tystiolaeth a pholisi'r llywodraeth".
"Mae'r lledrith gwreiddiol hwnnw o 2016 bellach wedi arwain at gwymp pedwar prif weinidog," meddai.
"Mae'r lledrith hwnnw'n egluro y cyllideb fechan gwallgof.
"Ni allai Truss enwi unrhyw economegydd ag enw da a gefnogodd ei chynlluniau - ond yn ein disgwrs cyhoeddus ôl-Brexit, ar ôl y gwir - mae tystiolaeth ar gyfer swots yn unig.
"Y cyfan sydd ei angen arnoch yn y byd newydd dewr hwn yw ffydd dall."
Wrth feirniadu Llafur, ychwanegodd bod y blaid honno "eisiau 'gwneud i Brexit weithio' - ond eu bod wedi ymrwymo'n llwyr i gadw rhwystrau masnach enfawr sy'n atal busnesau Cymreig rhag masnachu'n rhydd gyda'n cymdogion agosaf".
Bu i gynrychiolwyr drafod galwadau am warchodaeth gyfreithiol i enwau lleoedd Cymraeg mewn cynnig yn ddiweddarach ddydd Sadwrn.
Mae cynnig etholaeth y blaid yn Aberconwy yn nodi y dylai llywodraeth Cymru sefydlu "amddiffyniad cyfreithiol" i sicrhau nad oes modd newid enwau Cymraeg ar dai, ffermydd ac eiddo eraill.
Gwnaeth cynnig arall alw am ymchwil i effaith wythnos waith pedwar diwrnod.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2022