Plaid Cymru am ddileu'r cynnydd mewn prisiau ynni

  • Cyhoeddwyd
Adam Price
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Adam Price yn annerch yr aelodau yn Llandudno ddydd Gwener

Mae cynllun i gwtogi prisiau ynni, rhewi prisiau rhent preifat a gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn rhatach wedi cael ei gynnig gan arweinydd Plaid Cymru.

Dywedodd Adam Price y bydd hyn yn rhywbeth sydd yn gallu cael ei "weithredu ar unwaith" a'i fod yn "gymdeithasol gyfiawn" wrth helpu gyda'r argyfwng costau byw.

Roedd Mr Price yn annerch aelodau ei blaid yn eu cynhadledd yn Llandudno.

Yn dilyn ymddiswyddiad Liz Truss fel prif weinidog y DU dywedodd Mr Price nad oes gan y Ceidwadwyr bellach "unrhyw fandad nac unrhyw hygrededd" ar ôl.

Beth yw'r cynlluniau?

Mae cynllun Plaid Cymru yn cynnwys:

  • Rhoi cap o £1,277 ar gyfartaledd ar brisiau ynni, gan ddileu cynnydd mis Hydref, ac ymestyn cyfnod y cap tu hwnt i fis Ebrill nesaf;

  • Cynyddu Credyd Cynhwysol £25 a chynyddu'r holl fudd-daliadau i gyd-fynd â chwyddiant;

  • Rhewi rhent yn y sector preifat a gwahardd yr hawl i droi tenantiaid o'u tai y gaeaf hwn;

  • Rhewi prisiau tocynnau trên ar gyfer 2023 a rhoi cap o £2 ar bris tocynnau bws;

  • Prydau ysgol am ddim i ddisgyblion uwchradd, gan ddechrau gyda phlant o deuluoedd sy'n derbyn Credyd Cynhwysol.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Blaid Cymru am fanylion cost y cynigion.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Plaid Cymru yn cynnig cap o £1,277 ar gyfartaledd ar brisiau ynni

Wrth gyfeirio at yr anrhefn yn rhengoedd y Llywodraeth Geidwadol yr wythnos hon, dywedodd Mr Price: "Digon yw digon oherwydd mae goblygiadau penderfyniadau Rhif 10... yn mynd tu hwnt i'r marchnadoedd ariannol.

"Rhaid bod yn glir, mae'r toriadau ar y ffordd - yn rhwygo drwy ein gwasanaethau cyhoeddus."

Dywed Mr Price ei fod yn gobeithio mai "gweithred gyntaf - a gobeithio olaf " y prif weinidog Ceidwadol nesaf yw galw etholiad cyffredinol.

"Nid oes ganddynt unrhyw fandad nac unrhyw hygrededd yn weddill," meddai.

Cytundeb Plaid Cymru â Llafur

Mae gan Blaid Cymru dri AS yn Nhŷ'r Cyffredin ac 13 o'r 60 o seddi yn y Senedd yng Nghaerdydd.

Llafur, gyda 30 o seddi, yw'r blaid sy'n ffurfio llywodraeth ym Mae Caerdydd. Mae gan y Ceidwadwyr 16 aelod a'r Democratiaid Rhyddfrydol un.

Fis nesaf fydd dechrau'r ail flwyddyn ers dechrau cytundeb tair blynedd rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur yn y Senedd.

Mae'r cytundeb yn cynnwys ymestyn cynllun prydau bwyd am ddim i holl ddisgyblion cynradd, caniatáu i gynghorau lleol gyflwyno trethi twristiaeth, newidiadau i dreth y cyngor a chynyddu nifer aelodau'r Senedd.