Cyhuddo dyn o ymosod yn hiliol ar gerddor yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Morris PleasureFfynhonnell y llun, Morris Pleasure
Disgrifiad o’r llun,

Mae Morris Pleasure yn gyn-aelod o'r band Earth, Wind and Fire

Mae dyn 25 oed wedi ei gyhuddo o ymosod ar gerddor Americanaidd blaenllaw ar sail ei hil yn Aberystwyth.

Mae Hefin Parker, sydd o'r dref, hefyd wedi ei gyhuddo o ail drosedd o ymosod ar Morris Pleasure, sy'n cael ei adnabod fel Mo, ac yn gyn-aelod o'r band Earth, Wind and Fire.

Honnir bod y troseddau wedi digwydd yn Aberystwyth ar 3 Ebrill eleni.

Mae disgwyl i Mr Parker ymddangos o flaen ynadon y dref ddydd Mercher.

Pynciau cysylltiedig