Arestio bechgyn 11 oed ar amheuaeth o gynnau tân bwriadol

  • Cyhoeddwyd
Y tân ar Gilmour StreetFfynhonnell y llun, Velley Times/Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r tân ar Gilmour Street yn Nhonypandy nos Sul

Mae tri bachgen 11 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynnau tân bwriadol mewn datblygiad tai yn Rhondda Cynon Taf dros y penwythnos.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 19:00 nos Sul i dân mewn dau dŷ gwag sydd newydd gael eu hadeiladu ar Gilmour Street yn Nhonypandy.

Fe gymrodd awr a hanner i'r gwasanaeth tân ddiffodd y fflamau.

Mae'r bechgyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynnau'r tân yn fwriadol, ac wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad yr heddlu'n parhau.

Mae Heddlu De Cymru yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Ffynhonnell y llun, Valley Times/Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Anfonwyd criwiau o Donypandy, Treorci a Phontypridd

Pynciau cysylltiedig