Cefnogaeth i gynllun addysg awyr agored i blant ysgol
- Cyhoeddwyd
Dylai pob disgybl yng Nghymru gael treulio wythnos mewn canolfan addysg awyr agored, gyda Llywodraeth Cymru'n talu, yn ôl un Aelod o'r Senedd.
Byddai'r cynllun - a gafodd ei gynnig gan yr Aelod Ceidwadol, Sam Rowlands - yn costio hyd at £13.6m y flwyddyn, neu £400 y disgybl.
Cafodd y mesur ei basio o 25 pleidlais i 24 yn y Siambr ym Mae Caerdydd ddydd Mercher.
Mae'r AS dros Ogledd Cymru eisiau ei gwneud hi'n orfodaeth statudol bod pob plentyn yn cael wythnos breswyl fel hyn yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol.
Ond yn ôl rhai, byddai'n rhaid sicrhau bod yna gyllid ychwanegol er mwyn i gynghorau lleol allu fforddio talu.
Bydd Mr Rowlands yn cael blwyddyn i wneud gwaith ymchwil pellach a chynnal ymgynghoriad ar Ddeddf Addysg Awyr Agored (Cymru).
Bydd wedyn yn gorfod mynd yn ôl drwy'r Senedd er mwyn cwblhau'r broses ddeddfu.
Yn ôl Mr Rowlands, mae plant o gefndiroedd mwy breintiedig ddwywaith mwy tebygol o fynychu cyrsiau preswyl awyr agored na disgyblion o ardaloedd tlotach.
Byddai galluogi pob plentyn i fynychu ymweliadau o'r fath yn gwella eu hiechyd corfforol a meddyliol, meddai.
O dan y cynlluniau, byddai Llywodraeth Cymru yn clustnodi arian i awdurdodau lleol dalu am y teithiau.
Mae'r cynnig yn amcangyfrif bod wythnos breswyl mewn canolfan awyr agored yn costio rhwng £290-£400 y disgybl.
Er bod Mr Rowlands yn cydnabod bod hynny yn "her ar hyn o bryd o ran gwariant cyhoeddus", mae'n dweud ei bod yn "hollol glir bod yna fudd go iawn i blant o ran addysg a iechyd, allai wneud gwahaniaeth yn yr hirdymor".
Gyda gwaith ymchwil a'r pandemig wedi dangos pwysigrwydd treulio amser yn yr awyr agored o ran iechyd a lles, mae'r drafodaeth yn un amserol.
Ond ar hyn o bryd dydy hi ddim yn ofynnol i gynghorau ddarparu cyfleon awyr agored preswyl i ddisgyblion - ac mae'r cyfleon hynny'n amrywio'n helaeth ar draws Cymru.
Un ganolfan sydd wedi arfer darparu cyrsiau i ddisgyblion ers blynyddoedd ydy Gwersyll Glan Llyn yn Y Bala, ac mae'r pennaeth Huw Antur yn cytuno a'r alwad i sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i brofi manteision lleoliadau o'r fath.
Dywedodd: "'Dan ni'n amlwg yn darparu i'r bobl sydd yn dod yma - ond yn amlwg mae 'na bobl sydd ddim yn gallu.
"'Dan ni'n cael negeseuon o ysgolion rŵan yn dweud bod pethau'n anodd ar deuluoedd a mynd yn anoddach wnaiff hi mae'n siwr yn y flwyddyn ddwy nesa 'ma.
"Felly mae unrhyw gynnig sy'n rhoi'r un cyfle teg i bawb, a dod a'r cysondeb yna, yn sicr yn rhywbeth 'dan ni'n ei groesawu'n fawr.
"Mae'r cyllid i lawr i'r bobl yn y Senedd ond mae 'na waith cynllunio hefyd i wneud yn siŵr bod y ddarpariaeth yn gywir hefyd, a bod plant a phobl ifanc yn cael y profiadau diwylliannol Cymraeg maen nhw'u hangen i ddod i 'nabod ei gilydd, 'nabod eu hunain a 'nabod eu gwlad."
Un ysgol sydd wedi bod ar ymweliad â Glan Llyn yn ddiweddar ydy Ysgol Friars, o Fangor.
Dywedodd eu Llysgennad Chwaraeon, Ariana Poljakovic fod "angen profiad ar bawb i fod yn yr awyr agored" gan ei fod yn "helpu gyda iechyd meddwl".
"Dydy pawb ddim yn gallu cael profiad fel hyn achos mae'n costio a dydy pawb ddim yn gallu fforddio fo," dywedodd.
"Ond os fasa 'na siawns i bawb gael profiad fel hyn dw i'n meddwl basa fo'n wych i ddyfodol plant."
'Drud i Mam a Dad'
Roedd rhai o'r disgyblion hefyd yn credu ei fod yn syniad da cynnig wythnos o ymweliad preswyl am ddim.
Dywedodd Ben: "Dwi'n un o chwech yn teulu ni, felly mae'n ddrud i Mam a Dad dalu i mi fynd i Glan Llyn.
"Dwi'n meddwl ddylsa bob plentyn gael dod i rywle fel hyn."
Ychwanegodd Poppy: "Oherwydd bod ni wedi bod mewn lockdown mae'n siawns arbennig i dreulio amser efo ffrindiau a 'da ni'n gallu cofio fo pan 'da ni'n hŷn."
Fel aelod o'r panel fu'n cydweithio i ddod a'r mesur i'r Senedd, mae Arwel Elias - sy'n Ymgynghorydd Ymweliadau Addysg yn y gogledd orllewin - yn teimlo'n angerddol y dylai'r cyfleon fod yn gyfartal.
Esboniodd: "Mae o'n symud ffocws lle mae addysg awyr agored o fod yn rhywbeth sydd yn cyfoethogi i fod yn rhywbeth craidd ym mhob haen o addysg yng Nghymru, ac wrth i'r Cwricwlwm yng Nghymru ddatblygu a'r Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mae'n gyfle gwych i ni ailfframio pwysigrwydd awyr agored yn y cyd-destun yna.
"Os 'da ni'n mynd i arloesi mewn unrhyw fath o addysg yng Nghymru, efo'r cyfoeth naturiol sydd ar ein stepen drws ni, oni mai yr awyr agored ddylai hynny fod?"
"Be sy'n gret am y bil yma ydy'i fod o'n rhoi cyfle cyfartal i holl blant. Rhaid i ni gofio hefyd falla mai dim ond trwy brofiad ysgol gaiff rhai plant y cyfle i ymgymryd efo'r math yma o gwrs preswyl."
Yn ôl Dr Marlene Davies, sy'n ddarlithydd Llywodraeth Leol ym Mhrifysgol De Cymru, byddai'n hanfodol bod yna gyllid ychwaengol i gynghorau allu fforddio talu am gynllun o'r fath:
"Dyw £13.6 miliwn ddim yn gyfanswm anferth unwaith ry'ch chi'n ei rannu rhwng pob awdurdod ond mae e'n mynd i fod yn lot fawr o arian i'r awdurdodau yma i ddod o hyd os ydyn nhw'n gorfod dod o hyd i'r arian.
"Os ydy Llywodraeth Cymru'n fodlon rhoi arian ychwanegol ar ben beth maen nhw'n rhoi iddyn nhw fel cyllid, mae hynny'n mynd i fod yn dda."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd15 Awst 2022
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2022