Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 3-1 FC Halifax

  • Cyhoeddwyd
Jordan DaviesFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Yr hogyn lleol, Jordan Davies, oedd sgoriwr y gôl fuddugol

Er cychwyn yn siomedig, llwyddodd Wrecsam i daro nôl a sicrhau triphwynt gwerthfawr yn erbyn Halifax nos Fawrth.

Yr ymwelwyr aeth i fewn i'r egwyl ar y blaen diolch i cic gosb Emmanuel Dieseruvwe wedi iddo gael ei faglu gan Aaron Hayden.

Ond dod yn ôl wnaeth y Dreigiau gyda 64 munud ar y cloc diolch i ergyd wyriedig Ben Tozer.

Roedd Wrecsam ar y blaen diolch i'r eilydd Jordan Davies gydag ond wyth munud yn weddill.

Llwyddodd Hayden i wneud i fyny am ei gamgymeriad, ac ychwanegu at y gôl y sgoriodd dros y penwythnos, gyda'i beniad yn selio'r fuddugoliaeth wrth i'r gêm ddirwyn i ben.