CPD Wrecsam yn gwahardd esgidiau'n sarhau'r Ceidwadwyr

  • Cyhoeddwyd
Paul MullinFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Mae Paul Mullin hefyd wedi bod yn un o sêr cyfres Welcome to Wrexham

Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi atal eu hymosodwr Paul Mullin rhag gwisgo esgidiau sydd â neges sarhaus am y blaid Geidwadol arnyn nhw.

Fe wnaeth Mullin, un o sêr mwya'r clwb, rannu llun o'r esgidiau ar ei gyfryngau cymdeithasol ddydd Llun.

Roedd y llun wedi'i gymryd yn stadiwm Wrecsam, y Cae Ras, a dywedodd y clwb fod y llun wedi'i gymryd "heb i ni wybod na rhoi caniatâd".

Dywedodd Wrecsam eu bod yn cymryd "safbwynt niwtral" ar wleidyddiaeth, ac y byddan nhw'n "delio gyda'r mater yn breifat".

Ychwanegon nhw y bydd Mullin, 27 oed o Lerpwl, yn "parhau i chwarae rhan sylweddol" wrth i'r clwb geisio sicrhau dyrchafiad o'r Gynghrair Genedlaethol.

Bydd Wrecsam yn herio Halifax ar y Cae Ras nos Fawrth.

"Gall y clwb gadarnhau na fydd yr esgidiau a ddangoswyd gan Paul Mullin ar gyfryngau cymdeithasol yn cael eu gwisgo heno, nac mewn unrhyw gêm arall CPD Wrecsam," meddai datganiad y clwb.

"Ni fyddai'r clwb wedi rhoi caniatâd i'r lluniau gael eu cymryd pe bydden ni'n gwybod, a bydd y clwb yn delio gyda'r mater yn breifat.

"Mae'r clwb wedi cymryd safbwynt niwtral ar nifer o faterion sydd ag elfen wleidyddol, a byddwn yn parhau i wneud hyn wrth symud ymlaen."

Ychwanegodd y clwb eu bod yn "cydnabod fod gan bawb yr hawl i'w barn eu hunain", ond nad oedden nhw eisiau rhoi'r argraff fod barn un unigolyn yn cynrychioli pawb yn y clwb.

Mae etholaeth Wrecsam yn cael ei chynrychioli gan yr AS Ceidwadol Sarah Atherton yn San Steffan, a'r aelod Llafur Lesley Griffiths yn y Senedd.