Sir Benfro: Dau wedi marw, tri yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a menyw oedrannus oedd yn teithio yn yr un car wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn cynnwys tri char yn Sir Benfro.
Bu'n rhaid cludo oedolyn a dau blentyn i'r ysbyty am driniaeth hefyd wedi iddyn nhw gael anafiadau difrifol.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4115 rhwng pentref Tredemel a Cross Hands, ger Arberth, ychydig cyn 17:30 brynhawn Mawrth.
Mae'r awdurdodau wedi cysylltu gyda pherthnasau'r ddau fu farw.
Hyundai i10 arian, Peugeot 3008 gwyn a Mini arian oedd yn y gwrthdrawiad.
Bu'n rhaid cau'r ffordd am gyfnod tra bod ymchwiliadau'n cael eu cynnal ond roedd wedi ailagor erbyn 01:35 fore Mercher.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth a lluniau dash-cam all fod o gymorth i'r ymchwiliad.