Dedfrydu swyddog heddlu am ymosod ar fachgen oedd yn ei ffilmio

  • Cyhoeddwyd
Dean GittoesFfynhonnell y llun, Athena
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Dean Gittoes yn gorfod gwneud 200 awr o waith di-dâl

Mae arolygydd heddlu wedi derbyn gorchymyn cymunedol am ymosod ar fachgen "bregus" oedd yn ffilmio tu allan i orsaf heddlu.

Bydd Dean Gittoes, 49, yn gorfod gwneud 200 awr o waith di-dâl dros gyfnod o 12 mis.

Dywedodd y barnwr bod Gittoes wedi "cam-drin ei bŵer" ac wedi "diraddio" y dioddefwr 16 oed.

Cafwyd Gittoes yn euog o ymosod ar y bachgen mewn gwrandawiad yn gynharach y mis hwn ar ôl gwadu'r cyhuddiad o ymosod trwy guro.

Dywedodd y bachgen ei fod yn ffilmio gorsaf heddlu Merthyr Tudful yn Awst 2021.

Dechreuodd yr arfer o ffilmio adeiladau swyddogol [auditing] yn America, lle mae pobl yn rhannu unrhyw ddeunydd o gyswllt gyda swyddogion heddlu, neu bobl mewn awdurdod, ar-lein.

Fe welodd y llys sut y gwnaeth Dean Gittoes "gydio" yn y bachgen "gyda grym" yn y deunydd fideo.

'Eiliad o wallgofrwydd'

Roedden nhw'n gallu clywed y bachgen yn dweud "alla i ddim anadlu" ac "mae'n fy nhagu" wrth symud i ystafell yn y ddalfa.

Dywedodd yr amddiffyniad fod y digwyddiad yn "eiliad o wallgofrwydd" ac y byddai'n arwain at "gosb sylweddol" o'r swyddog yn colli ei yrfa.

Clywodd Llys Ynadon Casnewydd bod Dean Gittoes wedi bod yn swyddog heddlu ers 24 o flynyddoedd ac yn ennill £3,000 y mis, ar ôl treth, fel arolygydd.

Yn ogystal â'r gorchymyn cymunedol, bydd Gittoes yn gorfod talu £1,275 mewn costau ac iawndal.

Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Mark Lenihan, o Adran Safonau Proffesiynol Heddlu'r De, y bydd y llu nawr yn "gallu delio gyda materion camymddygiad" gan fod yr achos troseddol ar ben.

Pynciau cysylltiedig