Pobl sy'n ffilmio gorsafoedd heddlu yn 'achosi trwbl'

  • Cyhoeddwyd
Dean GittoesFfynhonnell y llun, Athena
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Arolygydd Dean Gittoes yn gwadu cyhuddiad o ymosod trwy guro

Mae heddwas sydd wedi'i gyhuddo o ymosod ar lanc 16 oed wedi dweud wrth lys ei fod yn credu fod pobl sy'n ffilmio adeiladau fel gorsafoedd heddlu "yno i achosi trwbl".

Mewn achos gerbron barnwr sirol yn Llys Ynadon Casnewydd, mae'r Arolygydd Dean Gittoes, 49, yn gwadu cyhuddiad o ymosod trwy guro.

Cafodd fideo o'r bachgen yn ffilmio'r Arolygydd tu allan i orsaf heddlu Merthyr Tudful fis Awst 2021 ei ddangos i'r llys.

Mae'r bachgen 16 oed, nad oes modd ei enwi, yn honni fod yr Arolygydd Gittoes wedi bod yn ymosodol tuag ato a'i fod wedi ei dagu.

Wrth roi tystiolaeth ddydd Mawrth ar ail ddiwrnod yr achos, dywedodd yr heddwas ei fod wedi dod ar draws dau achos arall o bobl yn ffilmio'r orsaf heddlu.

Dywedodd ei fod wedi gweld fideos gan un ohonynt ar YouTube, oedd yn dangos gorsafoedd heddlu eraill ac adeiladau'r llywodraeth, megis y Senedd.

Oherwydd hyn, a bygythiadau i swyddogion heddlu yn yr orsaf gan gangiau, roedd yn credu fod y bachgen yn cynrychioli bygythiad terfysgol, meddai.

Crybwyll lleoliad camerâu

Mae'r arfer o ffilmio adeiladau swyddogol - neu auditing - yn rhan o duedd ddiweddar sy'n gyffredin yn y DU a'r Unol Daleithiau.

"Roedd hyn yn fy mhoeni," meddai'r Arolygydd Gittoes, "achos i mi, roedd yn canolbwyntio ar adeiladau'r llywodraeth.

"Roedd o'n benodol yn crybwyll lleoliad camerâu cylch cyfyng, lle'r oedd gwendidau yn y rhwystrau, ac yn pwyntio allan lle'r oedd staff yn mynd i mewn ac allan.

"Roedd o'n fy mhoeni y gallai'r fideos yma helpu rhywun oedd eisiau ymosod ar orsaf heddlu neu wneud niwed i adeilad y llywodraeth."

Roedd wedi codi'r pryderon gydag uwch swyddogion, ond roedd y canllawiau ar gyfer delio ag achosion o'r fath yn dal yn aneglur, meddai.

Clywodd y llys bod Heddlu De Cymru, yn dilyn achosion tebyg yn y rhanbarth, wedi cynghori swyddogion nad oedd ffilmio adeiladau llywodraethol ar eiddo cyhoeddus yn drosedd derfysgol.

Mae'r achos yn parhau.