Y plentyn cyntaf o Wcráin ar ei ben ei hun yn cyrraedd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r plentyn cyntaf o Wcráin sydd wedi cyrraedd fel ffoadur ar ei ben ei hun wedi cyrraedd Cymru.
Mae gan y plentyn deulu nawdd ac mae'n cael ei gefnogi gan awdurdod lleol ac asiantaethau eraill, yn ôl Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol.
Mae disgwyl i tua 1,000 o blant gyrraedd y DU heb rieni na gwarcheidwaid, gyda thua 15 yn dod i Gymru, meddai Ms Hutt.
Newidiodd gweinidogion y DU y rheolau yn yr haf i helpu plant ar eu pen eu hunain oedd yn ffoi rhag y gwrthdaro yn Wcráin.
Dywedodd Ms Hutt wrth Bwyllgor Llywodraeth Leol a Thai Senedd Cymru fod y newidiadau yn golygu "gallai plentyn neu berson ifanc wneud cais am fisa os oedd ganddyn nhw brawf o ganiatâd rhiant neu [gan] awdurdod a gymeradwywyd gan lywodraethau Wcráin a'r DU" o dan y cynllun Homes for Ukraine.
Wrth ateb cwestiwn gan yr Aelod o'r Senedd Llafur Jayne Bryant, dywedodd y gweinidog fod "amgylchiadau eithriadol iawn, o ran noddwyr a threfniadau" ar gyfer plant sy'n ffoaduriaid ar eu pen eu hunain.
"Yr wythnos hon, rydym newydd glywed bod y person ifanc cyntaf wedi gallu dod i Gymru drwy'r llwybr hwn," meddai.
"Roedden ni'n rhagweld tua 1,000 yn dod drwodd ar draws y DU ac, yn amlwg, mae'n cymryd amser, mae eu hamgylchiadau unigol yn gymhleth iawn.
"Rydyn ni'n rhagweld, mae'n debyg, yng Nghymru, ein bod ni'n meddwl efallai y gallai 15 ddod, ond mae'r un cyntaf wedi cyrraedd."
8,300 fisa
Mewn datganiad i Senedd Cymru ddydd Mawrth, dywedodd Ms Hutt bod "ychydig llai na 6,000 o bobl o Wcráin a noddir gan Lywodraeth Cymru a chartrefi Cymreig wedi cyrraedd Cymru erbyn 18 Hydref, ac mae mwy o bobl wedi cyrraedd o dan Gynllun Teulu Wcráin, ond dydyn ni ddim yn cael y data hwnnw gan Lywodraeth y DU".
Ychwanegodd fod mwy na 8,300 fisa bellach wedi'i ganiatáu i bobl o Wcráin sydd â noddwyr yng Nghymru, "felly gallwn ddisgwyl i nifer y rhai sy'n cyrraedd barhau i dyfu'n gyson yn yr wythnosau nesaf".
Fis diwethaf fe apeliodd Llywodraeth Cymru am fwy o bobl i agor eu cartrefi i ffoaduriaid o Wcráin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd27 Medi 2022
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2022