Rygbi Unedig: Scarlets 5-35 Leinster

  • Cyhoeddwyd
Ross Byrne o Leinster, sgoriodd dri throsiadFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Ross Byrne o Leinster dri throsiad yn erbyn y Scarlets

Fe wnaeth Leinster ymestyn eu mantais ar frig y tabl gyda buddugoliaeth o 35-5 dros y Scarlets.

Fe sicrhaodd ceisiau gan Chris Cosgrave, Rob Russell a Thomas Clarkson a dau gais cosb seithfed buddugoliaeth o'r bron.

Dim ond un cais gafodd y Scarlets yn yr hanner cyntaf gan y canolwr Steff Evans.

Mae'r canlyniad yn rhoi mwy o bwysau ar brif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel, sydd ond wedi sicrhau un fuddugoliaeth yn y saith gêm gyntaf.

Mae'r Scarlets wedi colli pump, ennill un yn erbyn Zebre ac wedi cael un gêm gyfartal.