Port Talbot: Teyrnged i seiclwr oedd â 'chalon o aur'

  • Cyhoeddwyd
Michael BlakeFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Michael Blake yn wreiddiol o Gasnewydd, ond bellach yn byw yn ardal Tai-bach ym Mhort Talbot

Mae teulu seiclwr fu farw mewn gwrthdrawiad gyda char ym Mhort Talbot wedi ei ddisgrifio fel dyn oedd â "chalon o aur".

Bu farw Michael Blake, 38, yn dilyn gwrthdrawiad gyda char Vauxhall Astra ar y B4286, Heol Cwmafan am tua 06:40 fore Iau.

Mae dyn 33 oed o Faesteg wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ac mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bo'r ymchwiliad yn parhau.

Roedd Mr Blake yn wreiddiol o Gasnewydd, ond roedd bellach yn byw yn ardal Tai-bach ym Mhort Talbot.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Cwmafan, ger y troad am Rhes Llundain

Dywedodd ei bartner, Michelle, fod ganddo "bersonoliaeth grêt" a "chalon o aur".

"Byddai'n gwneud unrhyw beth i mi. Roedd yn caru'r awyr agored, pysgota, gwersylla a mynd ar ei feic," meddai.

"Bydd yn cael ei golli gan ei holl deulu - ei blant, wyrion ac wyresau, llysblant, ei fam, ei chwaer a'i gefndryd a chyfnitherod - a chymaint o'i ffrindiau yn y gymuned.

"Mae wedi gadael twll yn ein calonnau ni oll, all fyth gael ei lenwi."

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad ac yn annog unrhyw dystion i gysylltu â'r llu.

Pynciau cysylltiedig