Aberystwyth: Cerddwr wedi'i daro gan gar a'i gludo i'r ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Heol PenglaisFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Penglais, ger Prifysgol Aberystwyth, brynhawn Gwener

Mae person wedi cael ei hedfan i'r ysbyty ar ôl cael ei daro gan gar yn Aberystwyth brynhawn Gwener.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i'r digwyddiad ar Heol Penglais, ger prifysgol y dref, am tua 13:20.

Dywedon nhw fod car a cherddwr wedi bod mewn gwrthdrawiad, a bod y cerddwr wedi cael ei gludo i'r ysbyty yn hofrennydd yr ambiwlans awyr.

Does dim gwybodaeth eto i ba ysbyty mae'r claf wedi'i gymryd.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth allai helpu swyddogion gyda'u hymchwiliad i gysylltu â'r llu.