Gwrthod cynnig i ailystyried ariannu ysgol Gymraeg Penfro

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Bro PenfroFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Darlun arlunydd o sut y bydd Ysgol Bro Penfro yn edrych wedi iddi gael ei chwblhau

Ni fydd Cyngor Sir Benfro yn ailystyried penderfyniad i ariannu'r gost ychwanegol o adeiladu ysgol Gymraeg newydd.

Mae costau adeiladu'r ysgol gynradd Gymraeg newydd - Ysgol Bro Penfro - wedi dyblu.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi cytuno i gyllido 100% o'r prosiect £6.7m.

Ond yn gynharach yn y mis fe glywodd aelodau cabinet Cyngor Sir Benfro fod costau wedi cynyddu i £14m.

Fe wnaethon nhw gymeradwyo'r penderfyniad i dalu peth o'r gwahaniaeth - £3m - gyda chronfeydd y cyngor.

Roedd nifer o gynghorwyr yn anhapus gyda'r penderfyniad, gan gyflwyno cynnig yn y pwyllgor craffu i alw ar y cyngor i ailystyried eu gwariant.

Ddydd Gwener, fe bleidleisiodd aelodau o bwyllgor trosolwg a chraffu ysgolion a dysgu Sir Benfro yn erbyn y cynnig.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ysgol Bro Penfro yn cael ei hadeiladu ar safle ger fferm Glanymôr yn nhref Penfro

Dywedodd y Cynghorydd Jacob Williams wrth y pwyllgor mai "nid dadl am rinweddau'r iaith Gymraeg yw hon".

Ychwanegodd fod yr "amodau wedi newid" o ran ariannu'r cynllun gan nad Llywodraeth Cymru fydd yn ariannu'r gost lawn bellach oherwydd costau cynyddol.

Ond fe rybuddiodd y Cynghorydd Alan Dennison fod hyn yn "gosod cynsail peryglus ar gyfer y dyfodol".

Yn ôl y Cynghorydd John Davies, dyw'r sefyllfa "ddim yn ddelfrydol", ond mae Llywodraeth Cymru wedi "cyfaddawdu" drwy gynyddu eu cyllid o £6.7m i gynnig grant o £9m.

Roedd pryder hefyd y gallai'r oedi beryglu prosiectau arall.

Dywedodd pennaeth isadeiledd y cyngor, Darren Thomas, bod pwysau chwyddiant a gofynion ychwanegol ar gyfer cyrraedd targedau net sero wedi cyfrannu at y cynnydd aruthrol mewn costau.

Cafodd diwygiad gan y Cynghorydd Rhys Jordan, oedd yn nodi dylai'r mater gael ei ailystyried gan y cabinet, ei drechu o saith pleidlais i bump.

Fe gafodd penderfyniad gwreiddiol y cabinet ei gymeradwyo gan y pwyllgor.