Diswyddo gyrrwr bws ar ôl bron â tharo yn erbyn merch, 7
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr bws wedi colli ei swydd ar ar ôl gyrru ei gerbyd drwy olau coch a bron â tharo merch saith oed.
Dywedodd Newport Transport eu bod "yn wir ddrwg" am y gofid gafodd ei achosi i Courtney a'i theulu yn dilyn y digwyddiad ar Ffordd Somerton ar 13 Hydref.
Dangosodd lluniau CCTV ei bod hi wedi dechrau croesi pan ymddangosodd y dyn gwyrdd, cyn gorfod troi rownd yn sydyn i osgoi'r bws.
Dywedodd y cwmni y bydden nhw'n cymryd "camau ar unwaith" petai gyrrwr ddim yn ymddwyn yn broffesiynol.
Roedd Courtney yn aros i groesi'r ffordd gyda'i mam Tracy Flynn cyn y digwyddiad, ac fe neidiodd yn ôl yn dilyn bloedd gan ei mam.
Dywedodd Ms Flynn fod gyrrwr y bws wedi arafu pan welodd eu bod nhw ar y groesfan, ond wedi i Courtney neidio yn ôl, fe gyflymodd unwaith eto a gyrru i ffwrdd heb geisio ymddiheuro.
"Naeth e jyst edrych syth ymlaen a chario 'mlaen mynd," meddai. "Fe gyflymodd e i gael i ffwrdd ohonym ni."
Ychwanegodd bod Courtney wedi bod yn fwy petrusgar wrth y goleuadau traffig byth ers hynny, gan gadw llygad allan am rif y bws wnaeth bron ei tharo.
Dywedodd Scott Pearson, rheolwr gyfarwyddwr Newport Transport: "Mae'n wir ddrwg gennym ni am y gofid gafodd ei achosi i Courtney a'i theulu.
"Fe gymeron ni gamau ar unwaith i wahardd y gyrrwr rhag gweithio.
"Yn dilyn adolygiad mewnol, mae'r gyrrwr nawr wedi cael ei ddiswyddo."
Ychwanegodd bod "diogelwch yn hollbwysig" i'r cwmni, a bod gyrrwyr yn cael "hyfforddiant trylwyr" i sicrhau eu bod yn ddiogel ar y ffyrdd.
Dywedodd Ms Flynn ei bod yn cytuno mai diswyddo'r gyrrwr oedd y penderfyniad iawn.
"Dwi'n falch bod rhywbeth wedi cael ei wneud, fydden i ddim eisiau gweld pobl eraill yn cael eu brifo fel y gallen ni fod wedi bod," meddai.
"Gallai e fod wedi anafu fy merch fach, neu ei lladd - felly dwi'n poeni y gallai eraill fod wedi cael eu hanafu."