Mamau'n protestio dros ofal plant a phatrymau gwaith

  • Cyhoeddwyd
protest mamau

Mae mamau a theuluoedd wedi gorymdeithio yng Nghaerdydd gan alw am ddiwygio "brys" i drefniadau gofal plant, seibiannau mamolaeth a thadolaeth, a gweithio'n hyblyg.

Fe wnaeth tua 100 o bobl, rhai mewn gwisgoedd Calan Gaeaf, ymgynnull ger cerflun Aneurin Bevan cyn gwneud eu ffordd i Lyfrgell Canolog Caerdydd.

Ymhlith y rheiny fu'n siarad yn y digwyddiad oedd cyn-AS Plaid Cymru, Bethan Sayed, a gyhoeddodd yn 2020 ei bod hi'n camu yn ôl o wleidyddiaeth er mwyn treulio mwy o amser gyda'i mab ifanc.

"O fy mhrofiad i, rydych chi'n dibynnu ar fenywod yn y seneddau hynny i godi'r materion yma, ac oni bai bod hynny'n digwydd dydyn nhw ddim yn cael eu clywed," meddai.

"Ges i ddim seibiant mamolaeth, roedd rhaid i mi ymgyrchu am hynny.

"Mae'n rhaid cael newid sylfaenol mewn cymdeithas fel nad yw menywod yn gorfod gwneud yr holl wiath caled yma dros eu hunain."

Roedd y brotest yng Nghaerdydd - wedi ei threfnu gan ymgyrch Pregnant Then Screwed - yn un o nifer o ddigwyddiadau tebyg ar draws y DU, gan gynnwys mewn dinasoedd fel Birmingham, Manceinion a Bryste.

protest mamau

Dywedodd sylfaenydd y mudiad, Joeli Brearley, eu bod wedi dod at ei gilydd gan mai "digon oedd digon".

"Mae gennym ni fenywod yn dod â'u beichiogrwydd i ben, miloedd mwy yn dewis peidio cael plant, neu gael mwy o blant," meddai.

"Menywod yn gadael y gweithle yn eu niferoedd, a phlant yn cael eu gwthio i dlodi - pam?

"I gyd oherwydd sector gofal plant sy'n anfforddiadwy, anodd ei gyrraedd a ddim yn gweithio, sydd wedi cael ei esgeuluso.

"Mae cymaint o addewidion wedi eu torri ynghylch sicrhau'r hawl i weithio'n hyblyg, a dyw'r system o roi seibiant mamolaeth a thadolaeth ddim yn gweithio."

Ymgynghori ar weithio'n hyblyg

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod wedi "ymrwymo" i gefnogi rhieni sy'n gweithio.

"Mae gan y DU rai o'r hawliau seibiant mamolaeth mwyaf hael yn y byd, ac i roi cymorth i rieni sy'n gweithio rydyn ni wedi gwario dros £20bn dros y pum mlynedd diwethaf i wella cost, dewis ac argaeledd gofal plant," meddai.

"Rydyn ni eisiau i weithwyr allu gofyn am bryd, lle a sut maen nhw'n gweithio, a dyna pam mae'r llywodraeth yn ddiweddar wedi ymgynghori ar wneud yr hawl i ofyn am weithio'n hyblyg yn un sylfaenol ar diwrnod cyntaf i bob gweithiwr."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod eisoes yn ariannu 30 awr o addysg a gofal ar gyfer plant tair a phedair oed, i rieni sy'n gweithio, ac y bydd hynny'n cael ei ymestyn i blant dwy oed hefyd.

"Rydyn ni'n cydnabod pwysigrwydd darpariaeth gofal plant a chwarae, gan gynnwys cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau, i blant a'u rhieni, ac yn credu y dylai pob gweithiwr gael hawl awtomatig i ofyn am weithio'n hyblyg," meddai.

Pynciau cysylltiedig