Banc mam sengl 'yn wag ar ddiwedd mis' er gwaethaf dwy swydd
- Cyhoeddwyd
"Mae'r banc yn wag ar ddiwedd y mis," yn ôl un fam sengl o Wynedd sy'n gwneud dwy swydd.
Gyda'r cynnydd yng nghostau byw, mae Delyth Jones-Williams o Ddeiniolen yn teimlo'r esgid ariannol yn gwasgu'n dynn.
Fore Mercher fe gyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod graddfa chwyddiant wedi codi i 10.1% yn y flwyddyn hyd at fis Medi - hynny 0.2 yn uwch na'r mis blaenorol.
Mae'r gyfradd ychydig yn uwch na'r hyn yr oedd arbenigwyr yn ei ragweld.
I deuluoedd fel un Delyth, mae prisiau cynyddol yn realiti anodd sy'n cael ei deimlo bob dydd.
Fe wnaeth Delyth ddechrau teimlo gwir effaith prisiau cynyddol yn gynharach eleni.
"Mae bob dim yn mynd i fyny," dywedodd.
"'Wnaeth o ddechrau efo petrol. Roedd hwnna yn glec ofnadwy, achos roedd angen rhoi mwy bob wythnos yn y car. Cynt, o'n i'n gwybod faint yn union o'n i yn gorfod rhoi mewn bob wythnos.
"Wedyn ar ôl hynna o'n i'n sylweddoli bod y neges yn dechrau dod yn fwy drud."
'Lle mae'n mynd i stopio?'
Tra bod y siopa wythnosol am fwyd - neu'r 'neges' - yn ddrutach i Delyth, mae prisiau trydan a nwy hefyd yn achosi cur pen wrth geisio cynllunio.
Mae gan Delyth ddau o blant yn eu harddegau ac mae'n gofalu am blentyn maeth ifanc.
Mae'n gwneud hynny tra'n gwneud dwy swydd ac astudio am gymhwyster newydd hefyd.
"Mae bob dim i'w weld yn mynd yn fwy, ac yn fwy, ac yn fwy. A dwi just yn meddwl, lle mae'n mynd i stopio? Mae'n anodd trio talu bob dim o fis i fis.
"Mae yn newid byd, yn tydi? 'Da ni yn gorfod meddwl am gymaint o wahanol bethau, ac mae hynny yn waith caled pan wyt ti'n gofalu ac yn fam sengl, ac yn trio jyglan gymaint o bethau gwaith yn barod."
Graddfa chwyddiant yn cynyddu
Mae graddfa chwyddiant wedi bod yn cynyddu'n sydyn ers y flwyddyn ddiwethaf. Prisiau tanwydd a bwyd sydd wedi bod yn bennaf gyfrifol am y cynnydd, tra bod prisiau wedi codi am amryw bethau eraill hefyd.
Bu hyn oll yn cyfrannu at gynnydd mewn costau byw, a'r lleihad yn yr arian sy'n weddill gan deulu ar ôl talu am bethau angenrheidiol.
Mae merch Delyth, Beca-Ann, yn 17 oed ac wedi penderfynu gadael y coleg lle roedd hi'n astudio lefel-A er mwyn mynd i fyd gwaith.
"Hwn oedd yr unig ffordd o'n i yn mynd i allu helpu allan efo'r teulu, achos wedyn o'n nhw ddim yn gorfod poeni drosof fi wedyn.
"Roedd o'n ddewis anodd, oedd. Ond ar ddiwedd y ddydd, mae'r teulu yn fwy pwysig."
Mae'r plant wedi gorfod torri 'nôl, ac arbed ynni a phetrol.
"Dwi'n gweld y ffordd mae'n affectio lot o bobl eraill," meddai Beca-Ann.
"Mae yn affectio fi, ar lefel emosiynol, chi'n gweld fel mae eich teulu chi yn mynd yn distressed, maen nhw'n poeni lot fwy, yn trio cadw pob dim at ei gilydd ac yn trio'u gorau."
Wrth i gostau gynyddu, mae mwy o bobl yn troi at elusennau i geisio cyflawni pethau syml fel rhoi bwyd ar y bwrdd.
Mae elusen Foothold Cymru yn cynorthwyo pobl yng ngorllewin Cymru gyda bwyd rhad, cyfnewidfa dillad i blant ac yn cynnig help ymarferol gyda chostau byw cynyddol.
Bocsys bwyd ydy elfen boblogaidd o waith yr elusen, wrth i bobl dalu £5 am 10 eitem wahanol.
Mae Sophie Morgan yn rheoli'r prosiect: "Mae tua 300 o aelodau gyda ni. Mae gwahanol bobl yn cael y bocsys bob wythnos," dywedodd.
"Mae gyda ni deuluoedd, pobl sy'n byw ar eu pen eu hunain, mae gyda ni bobl hŷn, pobl sy'n gweithio a rhai sydd ddim yn gweithio. Mae gyda ni lot o wahanol bobl sy'n derbyn y bocsys."
Dywedodd Sophie Morgan fod pobl "wir yn gwerthfawrogi beth sydd ar gael, achos does dim byd fel hyn ar gael yn yr ardal."
Un sy'n derbyn bocs bwyd ydy Angharad Medi Lewis. Fe ddechreuodd dalu am y bocs bwyd ar ôl cael amser caled yn rhedeg clwb rygbi Llanybydder yn ystod cyfnodau gwaethaf y pandemig.
"Fi'n credu o'n i'n meddwl falle roedd foodbanks dim ond ar gael i bobl sydd ar ryw fath o benefits.
"Felly dechreuon ni hyn, talu £5 am focs o fwyd sydd â chynnwys gwerth - ambell waith - dros £50. Mae fe'n werth e.
"Ar un pryd fuon ni'n byw ar y bocsys bwyd yma, i gadw ni i fynd yn ystod y pandemig."
Bellach mae'r clwb rygbi yn fan casglu ar gyfer pobl sydd wedi cofrestru i dderbyn bocs bwyd.
Dywedodd Angharad: "Mae e'n wasanaeth grêt, yn dod â bocsys bwyd i gefn gwlad Cymru am bris arbennig iawn, gyda chynhwysion arbennig iawn.
"Ni dal wedi cadw ymlaen ag e, a sai'n credu allwn ni fynd 'nôl nawr i brynu popeth yn yr archfarchnad. Yn sicr mae hwn yn helpu ni i gadw costau bwyd lawr cymaint ag y gallai.
"Gyda'r costau ynni a phethau yn mynd i fyny, fi'n credu bydd mwy o alw am y bocsys hyn. Fydda i'n dweud wrth lot fwy o bobl, unrhyw un sydd yn stryglo, amdanyn nhw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2022
- Cyhoeddwyd18 Mai 2022
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2022