Carcharu dyn am ymosodiad hiliol yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 25 oed wedi cael ei garcharu ar ôl pledio'n euog i ymosod yn hiliol ar gyn-aelod o'r band Earth, Wind and Fire yn Aberystwyth.
Cafodd Hefin Parker, sydd o'r dref, ei ddedfrydu i 20 wythnos yn y carchar.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad tu allan i glwb nos The Royal Pier yn Aberystwyth ar 3 Ebrill 2022.
Clywodd y llys i Parker gael ei weld ar deledu cylch cyfyng yn "slapio'r dioddefwr gyda chledr ei law" yn ogystal â gwneud sylwadau hiliol sarhaus oedd yn cyfeirio at liw ei groen.
Mae Morris Pleasure, sy'n cael ei adnabod fel Mo, yn gyn-aelod o'r band Earth, Wind and Fire ac fe symudodd i orllewin Cymru ddwy flynedd yn ôl.
Roedd y cerddor yn ciwio i fynd i mewn i'r clwb nos pan ddigwyddodd yr ymosodiad.
Disgrifiodd Mr Pleasure y digwyddiad fel un a achosodd "lawer iawn o bryder" iddo, ac ers hynny mae'n "poeni am les ei hun a'i deulu".
Dywed Mr Pleasure fod y digwyddiad wedi ei adael "yn wyliadwrus ac yn gyson bryderus" yn ogystal â gwneud iddo "gwestiynu symud i Aberystwyth".
Wrth ymddangos yn Llys Ynadon Aberystwyth, ymddiheurodd Parker i'r dioddefwr gan ddweud fod ganddo "gywilydd".
Derbyniodd ddedfryd o 20 wythnos gan ynadon, a fydd yn cydredeg â dedfryd arall. Cafodd orchymyn hefyd i dalu costau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2022