Cyfrifiad 2021: Poblogaeth Cymru yr uchaf erioed

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail
Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail yn dangos y ffigwr diweddaraf ar gyfer poblogaeth Cymru

Mae poblogaeth Cymru wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed - ond mae'n tyfu'n arafach na phob rhanbarth yn Lloegr.

Mae canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 yn dangos mai poblogaeth breswyl arferol Cymru oedd 3,107,500 ar ddiwrnod y Cyfrifiad fis Mawrth 2021.

Mae hynny yn gynnydd o 44,000 (1.4%) o'i gymharu â diwrnod y Cyfrifiad yn 2011.

Fodd bynnag, roedd cyfradd twf y boblogaeth yng Nghymru yn sylweddol is nag yn Lloegr, lle cynyddodd y boblogaeth 6.6%.

Casnewydd oedd yr awdurdod lleol a dyfodd gyflymaf yng Nghymru ers 2011, sef 9.5%.

Caerdydd (4.7%) oedd â'r ail gyfradd uchaf o dwf yn y boblogaeth, ac yna Pen-y-bont ar Ogwr (4.5%).

Roedd gan sawl awdurdod lleol boblogaethau is yn 2021 nag yn 2011. Roedd y cyfraddau mwyaf o leihad yn y boblogaeth ers 2011 yng Ngheredigion (5.8%), Blaenau Gwent (4.2%) a Gwynedd (3.7%).

Poblogaeth Cymru yr uchaf erioed. Cyfanswm y boblogaeth a gofnodwyd.  Nid oedd cyfrifiad yn 1941 yn sgil y rhyfel. O 2001 ymlaen mae amcangyfrif ar gyfer y sawl nad oes cyfrif amdanynt.

Cynyddodd nifer y cartrefi ym mhob awdurdod lleol ond tri yng Nghymru o'i gymharu â 2011.

Yn awdurdodau lleol Casnewydd (cynnydd o 8.1%), Bro Morgannwg (7.5%) a Sir Fynwy (7.0%) y gwelwyd y cynnydd mwyaf.

Yr ardaloedd lle gwelwyd gostyngiad yn nifer y cartrefi oedd Gwynedd (gostyngiad o 2.6%), Ceredigion (2.1%) a Blaenau Gwent (0.4%).

'Ciplun cyfoethog a manwl'

Dywedodd cyfarwyddwr y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Jen Woolford: "Mae ystadegau'r cyfrifiad heddiw yn dechrau creu ciplun cyfoethog a manwl o'r genedl a sut roeddem yn byw yn ystod y pandemig.

"Maent yn dangos, er bod poblogaeth gyffredinol Cymru wedi parhau i dyfu yn ystod y degawd, nid dyna'r achos ym mhob awdurdod lleol yn y wlad.

"Mae'r boblogaeth wedi lleihau ers y cyfrifiad diwethaf mewn rhanbarthau gwledig a/neu arfordirol fel Ceredigion, Blaenau Gwent a Gwynedd.

"Roedd ardaloedd gwledig hefyd yn tueddu i gael poblogaethau hŷn a dwysedd poblogaeth is, yn enwedig Powys.

"Mae'r rhannau ieuengaf a mwyaf poblog o Gymru i gyd mewn ardaloedd trefol yn y de, fel Caerdydd a Chasnewydd."

Ffynhonnell y llun, cyfrifiad.gov.uk
Disgrifiad o’r llun,

Dyma ganlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021

Yr awdurdod lleol â'r boblogaeth fwyaf yn 2021 oedd Caerdydd, oedd â 362,400 o breswylwyr arferol.

Yr awdurdod â'r boblogaeth leiaf oedd Merthyr Tudful (58,800).

Mae canfyddiadau eraill yn cynnwys:

  • Roedd 1,586,600 o fenywod (51.1% o'r boblogaeth) a 1,521,000 o ddynion (48.9%) yng Nghymru;

  • Mae poblogaeth Cymru yn heneiddio, gan fod 21.3% o bobl yn 65 a throsodd, o'i gymharu â 18.4% ddegawd ynghynt;

  • Roedd 1,347,100 o gartrefi yng Nghymru ar ddiwrnod y Cyfrifiad - cynnydd o 44,400 (3.4%) ers 2011, pan oedd 1,302,676 o gartrefi;

  • Roedd 150 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr yng Nghymru yn 2021. Mae hyn tua'r un faint â 1.1 preswylydd fesul darn o dir maint cae pêl-droed.

Roedd Cyfrifiad 2021, am y tro cyntaf erioed, wedi'i lunio i gael ei ateb ar-lein yn bennaf.

'Llywio penderfyniadau'

Dywedodd Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: "Roedd Cyfrifiad 2021 yn llwyddiant yma yng Nghymru.

"Yn erbyn cefndir y pandemig coronafeirws, llwyddodd y cyfrifiad hwn, a gynhaliwyd drwy ddull 'digidol yn gyntaf' am y tro cyntaf, i sicrhau cyfradd ymateb o fwy na 96% yng Nghymru, gyda mwy na dwy ran o dair o gartrefi yn ei gwblhau ar-lein."

Ychwanegodd bod y "datganiad cyntaf hwn yn nodi dechrau cyhoeddi cyfres eang o ystadegau a dadansoddiadau Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru, yn ystod 2022 a 2023 a thu hwnt".

"Bydd data'r Cyfrifiad yn cael ei ddefnyddio i gynllunio a darparu gwasanaethau lleol yng Nghymru, yn ogystal â llywio penderfyniadau ar lefel genedlaethol a lleol i wella ein llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd."

Pynciau cysylltiedig