Dydd Gŵyl Dewi: Ysgrifennydd Cymru'n gwrthod galwad gŵyl banc
- Cyhoeddwyd
Mae'r ysgrifennydd Cymru newydd wedi gwrthod galwadau ei ragflaenydd am ŵyl banc ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Awgrymodd Syr Robert Buckland y gellid cael gwared ar ddiwrnod arall o wyliau er mwyn creu gŵyl banc ar 1 Mawrth.
Ond dywedodd ei olynydd, David TC Davies, fod "manteision" gyda'r sefyllfa bresennol.
Dywedodd ei fod yn meddwl y byddai ei blant ei hun wedi chwarae gemau cyfrifiadurol yn lle dathlu diwylliant Cymreig pe bai Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc.
Mae'r Alban a Gogledd Iwerddon eisoes yn dathlu diwrnodau o wyliau ar ddyddiau eu nawddseintiau, ond dydy pwerau tebyg dros ddynodi gwyliau banc ddim wedi'u datganoli yn yr un modd i Fae Caerdydd.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd ymhlith y rhai sydd wedi galw am wyliau ar ddiwrnod y nawddsant, tra bod Llywodraeth Cymru wedi dadlau y dylai'r pwerau gael eu datganoli i Senedd Cymru.
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Y Byd yn ei Le ar S4C, roedd Syr Robert Buckland wedi awgrymu y dylid rhoi'r gorau i ŵyl banc arall er mwyn gwneud lle ar gyfer dathliad ar 1 Mawrth.
Mae Calan Mai, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr, wedi bod yn ŵyl banc yn y DU ers 1978.
Argymhelliad personol Syr Robert Buckland oedd y gall gweithwyr yng Nghymru dderbyn diwrnod o wyliau ar 1 Mawrth yn lle hynny.
"Fy marn bersonol i fyddai cael gwared ar Galan Mai a chael Dydd Gŵyl Dewi fel gŵyl y banc a byddai'n quid pro quo neis," meddai.
Gadawodd Syr Robert y llywodraeth yr wythnos ddiweddaf a daeth AS Mynwy, Mr Davies, yn ei le.
De wrthododd Mr Davies ddadl ei ragflaenydd ym Mhwyllgor Dethol Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin pan gafodd ei holi gan AS Torïaidd Ynys Môn, Virginia Crosbie.
Heb enwi Syr Robert, fe wnaeth ysgrifennydd Cymru godi'r awgrym o symud Calan Mai ond ychwanegodd: "Nid dyna bolisi'r llywodraeth ar hyn o bryd.
"Nid yw hyn yn rhywbeth y byddwn i byth yn camu allan o'r cabinet drosto, beth bynnag sy'n digwydd. Rwy'n derbyn safbwynt y llywodraeth fel y mae.
"Ar ôl pwyso a mesur rwy'n ei gefnogi. Mae rhai manteision o beidio â chael gŵyl banc."
'Dawnsio, canu a stwff'
Dywedodd ei fod wedi bod i'r ysgol i weld ei dri phlentyn yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi.
"Dwi wedi bod yna sawl tro i'w gwylio nhw'n dawnsio, canu a stwff.
"Dwi'n amau oni bai eu bod nhw wedi bod yn yr ysgol, yn hytrach na dathlu'r rhan hyfryd yma o ddiwylliant Cymru a mwynhau ychydig o'r iaith a'r dawnsio, efallai y byddai tueddiad i lolian ar y soffa a chwarae PlayStation.
"Byddai'n well o lawer gen i eu gweld yn dathlu diwylliant Cymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2022