Hanner Tymor Tomos Bwlch
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n wythnos hanner tymor i blant Cymru ond sut maen nhw'n cadw'n brysur?
Cymru Fyw aeth i fusnesu ar sut hanner tymor mae Tomos Lewis o Ddihewyd neu 'Tomos Bwlch' yn ei gael.
Mae Tomos sy'n byw ar fferm yng Ngheredigion yn llais adnabyddus ar raglen Ifan Jones Evans ar Radio Cymru ac mae ei sgyrsiau doniol a gonest yn codi gwên dros Gymru gyfan.
Helo Tomos Bwlch sy' 'ma i siarad am fy hanner tymor. Mae amrywiaeth o waith i'w wneud dros yr wythnos gyda'r tywydd yn gwaethygu bob dydd.
Rwyf wedi bod yn mart Llanybydder i weld shwt beth oedd prisiau defaid. Hefyd i fart Tregaron gyda fy wncwl i weld prisiau da i'w prynu.
Mae'r rhan fwyaf o wartheg wedi dod mewn am y gaeaf nawr bod y tywydd yn gwaethygu.
Dwi hefyd yn dishgwl 'mlaen i fynd i Legoland gyda'r teulu am benwythnos...
A wedi gwneud yn siŵr bod fy ngwaith cartre' wedi 'neud. Felly, dyna fy wythnos!
Hefyd o ddiddordeb: