Caerdydd yn paratoi am drafferthion teithio er gohirio streic

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Rydym yn flin gorfod gofyn i bobl beidio teithio'

Bydd diffyg trenau'n dal yn amharu ar drefniadau miloedd o gefnogwyr rygbi sy'n teithio i Gaerdydd ddydd Sadwrn er cyhoeddiad yr undeb RMT bod streiciau ar 5, 7 a 9 Tachwedd wedi cael eu gohirio.

Dywed yr undeb, sy'n cynrychiolwyr gweithwyr rheilffordd, eu bod yn dechrau cyfnod o drafodaethau dwys" gyda Network Rail a chwmnïau trên.

Serch hynny, mae Great Western Railway wedi cadarnhau y bydd gohirio'r gweithredu diwydiannol "yn cael dim effaith ar amserlenni trenau [a'r] lefel o wasanaeth y gallwn ei ddarparu".

Oherwydd hynny ni fydd newid i'r gwasanaethau oedd wedi cael eu canslo ddydd Sadwrn, gan gynnwys trenau ar gyfer gêm rygbi Cymru yng Nghaerdydd.

Bydd Cymru'n wynebu Seland Newydd yng ngêm agoriadol cyfres yr hydref yn Stadiwm Principality, gyda'r gic gyntaf am 15:15.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Cymru yn wynebu talcen caled yn erbyn y Crysau Duon ddydd Sadwrn

Mae'r rhan fwyaf o drenau ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau wedi cael eu hatal, gyda gwasanaethau llai yn rhedeg i'r dwyrain o Gaerdydd ac i reilffyrdd y Cymoedd yn unig.

Mae anghydfod hir wedi bod rhwng undebau gyda'r llywodraeth a chwmnïau rheilffordd ynglŷn â chyflogau, toriadau swyddi a newidiadau i delerau ac amodau.

Mae hyd at 35,000 o bobl fel arfer yn teithio i Gaerdydd ar y trên ar gyfer y gêm, ond bydd capasiti yn cael ei dorri o ddwy ran o dair.

Mae Trafnidiaeth Cymru, sydd ddim yn rhan o'r anghydfod ynghylch tâl, wedi annog cefnogwyr i "wneud trefniadau amgen" a pheidio â chymryd y trên.

Cefnogwr 'methu ymlacio'

Mae Tim Ellis a'i wraig Lydia, o Christchurch yn Seland Newydd, yn bwriadu teithio i'r gêm o Fryste, lle maen nhw'n byw am flwyddyn.

"Fydda i ddim wedi ymlacio'n llwyr nes ein bod ni yn y stadiwm," meddai Mr Ellis.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tim Ellis a'i wraig Lydia wedi archebu teithiau bws ac yn gobeithio na fydd unrhyw oedi

Dywedodd Mr Ellis, gafodd ei eni yn y DU ac a symudodd i Seland Newydd gyda'i rieni a'i frawd pan oedd yn 12 oed, fod y cwpl wedi bwriadu mynd ar y trên i Gaerdydd ond eu bod wedi newid eu cynlluniau a chymryd bws.

"Mae'n mynd i fod fel miloedd o bobl yn disgyn ar Gaerdydd a dwi'n dyfalu y bydd y bws yn ei chanol hi, felly gobeithio na fydd unrhyw oedi oherwydd bydd pobl yn ysu i gyrraedd y gêm," meddai.

Cafodd Mr Ellis ei fagu yn Hampshire, ond cafodd ei dad ei fagu ger Aberhonddu, Powys, sy'n golygu bod cefnogi Cymru mewn rygbi yn "orfodol".

"Rydyn ni wedi archebu [bws] cynnar, felly dydyn ni ddim yn colli allan," meddai.

Beth yw'r trefniadau ar ôl y gêm?

Ni fydd trenau ar ôl y gêm, gyda'r gwasanaeth olaf yn gadael o orsaf Caerdydd Canolog cyn 17:00 ddydd Sadwrn.

Mae hynny'n golygu y bydd miloedd o gefnogwyr yn debygol o gael eu gorfodi i fynd ar y ffyrdd yn hytrach, gan arwain at bryderon o draffig trwm.

Mae disgwyl i'r M4 fod yn hynod o brysur a bydd nifer sylweddol o ffyrdd ar gau yng nghanol y ddinas o 11:15 tan 19:15.

Er mwyn osgoi tagfeydd yn y ddinas, mae Cyngor Caerdydd yn cynghori cefnogwyr i ddefnyddio cyfleusterau parcio a theithio.

Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd wedi rhybuddio bod disgwyl i wasanaethau fod yn brysur ddydd Sul i unrhyw un sy'n aros yng Nghaerdydd dros nos.