Cymru'n anelu i drechu Seland Newydd am y tro cyntaf ers 1953
- Cyhoeddwyd
Bydd Cymru'n herio Seland Newydd yng ngêm agoriadol Cyfres yr Hydref ddydd Sadwrn, wrth iddyn nhw geisio ennill yn erbyn y Crysau Duon am y tro cyntaf ers 1953.
Ar y cae, y newyddion mawr yw bod asgellwr ifanc y Dreigiau, Rio Dyer, yn ennill ei gap cyntaf, tra bod rhai o'r enwau mawr profiadol yn dychwelyd hefyd.
Ond oddi ar y cae mae cefnogwyr wedi cael eu rhybuddio i gyrraedd Caerdydd yn gynnar ac osgoi teithio ar drenau, er i streic yr undeb RMT gael ei hatal.
Bydd y gic gyntaf am 15:15 brynhawn Sadwrn yn Stadiwm Principality, ble bydd y to ar gau am fod disgwyl glaw yn y brifddinas am ran helaeth o'r dydd.
Rhybudd i beidio dibynnu ar drenau
Bydd y rhan fwyaf o drenau ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau wedi'u hatal ddydd Sadwrn, gyda gwasanaethau llai yn rhedeg i'r dwyrain o Gaerdydd ac i reilffyrdd y Cymoedd yn unig.
Daw hynny er i'r streic gael ei gohirio, gyda Great Western Railway yn dweud fod y diffyg rhybudd yn golygu nad oedd modd aildrefnu gwasanaethau a staffio.
Byddai hyd at 35,000 o bobl fel arfer yn teithio i'r brifddinas ar drên ar gyfer gêm fawr fel hon, ond bydd capasiti yn cael ei dorri o ddwy ran o dair.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi annog cefnogwyr i "wneud trefniadau amgen" a pheidio â chymryd y trên.
Wedi anafiadau tymor hir mae Leigh Halfpenny yn dychwelyd fel cefnwr, Ken Owens yn ôl fel bachwr a'r capten ar gyfer Cyfres yr Hydref, Justin Tipuric yn dechrau fel rhif 6.
Daw cyfle Dyer, 22, ar yr asgell oherwydd anaf i arddwrn Josh Adams.
Ond daeth i'r amlwg ddydd Gwener fod pryder am ffitrwydd Halfpenny hefyd, er iddo gael ei gyhoeddi ddydd Iau fel rhan o'r 15 fydd yn dechrau brynhawn Sadwrn.
Pe na bai Halfpenny yn holliach, mae'n bosib y bydd y maswr Rhys Priestland yn dechrau ei gêm gyntaf i Gymru ers pum mlynedd, gyda Gareth Anscombe o bosib yn symud i safle'r cefnwr.
Dyw Halfpenny heb chwarae dros Gymru ers iddo ddioddef anaf difrifol i'w ben-glin yn erbyn Canada ym mis Gorffennaf 2021.
Tair buddugoliaeth sydd gan Gymru yn erbyn Seland Newydd erioed, gyda'r diweddaraf o'r rheiny yn 1953.
Yn ôl Gareth Anscombe, mae torri'r rhediad o 69 mlynedd heb fuddugoliaeth yn rhan o'r hyn sy'n ysgogi chwaraewyr Cymru.
"Does 'na ddim achlysur mwy na'r Crysau Duon yng Nghaerdydd," meddai'r maswr, a chwaraeodd i dîm dan-20 Seland Newydd ond sydd wedi cynrychioli Cymru ers 2015.
Cafodd ei eni a'i fagu yn Seland Newydd, ond roedd yn gymwys i chwarae dros Gymru am fod ei fam, Tracy, yn dod o Gaerdydd.
'Blwyddyn gymysg' i'r Crysau Duon
"Maen nhw wedi cael blwyddyn gymysg ond maen nhw'n grŵp mor dalentog," meddai.
"Mae'r Crysau Duon mor beryglus. Os ydych chi ddim yn canolbwyntio am ddau funud maen nhw'n sgorio dau gais.
"Allwn ni ddim fforddio hynny, ac rydyn ni wedi bod yn trafod hynny.
"Mae'n rhaid i ni fod yn benderfynol, bod yn gywir, a pheidio â thynnu'r droed oddi ar y sbardun."
Mae Seland Newydd wedi cyhoeddi tîm cryf i herio'r Cymry, gyda'r brodyr Barrett - Beauden, Jordie a Scott - oll yn dechrau.
Mae 2022 wedi bod yn flwyddyn digon anodd i'r Crysau Duon o ystyried y safonau uchel arferol, gan golli cyfres gartref yn erbyn Iwerddon, a cholli gartref yn erbyn Ariannin am y tro cyntaf.
Ond wedi dechreuad sigledig fe enillon nhw'r Bencampwriaeth Rygbi (The Rugby Championship) gyda buddugoliaeth a phwynt bonws tyngedfennol yn y gêm olaf yn erbyn Awstralia.
Y gêm yn erbyn Seland Newydd yw'r gyntaf i Gymru yng Nghyfres yr Hydref eleni, gydag Ariannin, Georgia ac Awstralia hefyd yn cael eu croesawu i Gaerdydd cyn diwedd y mis.
Tîm Cymru
Leigh Halfpenny; Louis Rees-Zammit, George North, Nick Tompkins, Rio Dyer; Gareth Anscombe, Tomos Williams; Gareth Thomas, Ken Owens, Tomas Francis, Will Rowlands, Adam Beard, Justin Tipuric (capt), Tommy Reffell, Taulupe Faletau.
Eilyddion: Ryan Elias, Nicky Smith, Dillon Lewis, Alun Wyn Jones, Christ Tshiunza, Kieran Hardy, Rhys Priestland, Owen Watkin.
Tîm Seland Newydd
Beauden Barrett; Sevu Reece, Rieko Ioane, Jordie Barrett, Caleb Clarke; Richie Mo'unga, Aaron Smith; Ethan de Groot, Codie Taylor, Tyrel Lomax, Sam Whitelock (capt), Scott Barrett, Shannon Frizell, Dalton Papali'i, Ardie Savea.
Eilyddion: Samisoni Taukei'aho, Ofa Tu'ungafasi, Fletcher Newell, Tupou Vaa'i, Akira Ioane, Brad Weber, David Havili, Anton Lienert-Brown.
Cyfres yr Hydref
Cymru v Seland Newydd - Sadwrn 5 Tachwedd, 15:15, Stadiwm Principality
Cymru v Ariannin - Sadwrn 12 Tachwedd, 17:30, Stadiwm Principality
Cymru v Georgia - Sadwrn 19 Tachwedd, 13:00, Stadiwm Principality
Cymru v Awstralia - Sadwrn 26 Tachwedd, 15:15, Stadiwm Principality
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2022