Heriau'r Hydref: Pwy mae Cymru'n wynebu?

  • Cyhoeddwyd
hydrefFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae llai na blwyddyn i fynd tan Cwpan Rygbi'r Byd 2023, a dros y mis nesaf bydd Cymru'n chwarae yn erbyn timau o bedwar ban byd yng Nghyfres yr Hydref.

Seland Newydd, Yr Ariannin, Georgia ac Awstralia fydd y gwrthwynebwyr, gyda carfan Wayne Pivac yn ceisio adeiladu ar y gyfres gystadleuol yn Ne Affrica dros yr haf.

Felly dyma gipolwg o'r timau fydd yn ymweld â Chaerdydd rhwng 5-26 Tachwedd.

line break

Seland Newydd

Dydd Sadwrn, 5 Tachwedd. 15:15.

Er bod y Crysau Duon yn un o'r enwau enwocaf ym myd chwaraeon, mae 2022 wedi bod yn flwyddyn digon anodd i'r tîm o ystyried y safonau uchel arferol. Eleni fe gollodd Seland Newydd gyfres gartref yn erbyn Iwerddon, a hefyd colli gartref yn erbyn Yr Ariannin am y tro cyntaf.

Ond wedi dechreuad sigledig fe enillodd Seland Newydd Y Bencampwriaeth Rygbi (The Rugby Championship) gyda buddugoliaeth a phwynt bonws dyngedfennol yn y gêm olaf yn erbyn Awstralia.

Dydy Cymru heb guro'r Crysau Duon ers mis Rhagfyr 1953, a thair buddugoliaeth sydd gan Gymru yn erbyn Seland Newydd erioed (36 o gemau). Y golled drymaf oedd 55-3 yn Hamilton ym mis Mehefin, 2003.

Er hyn mae Seland Newydd wedi ennill ambell ornest o drwch blewyn dros y blynyddoedd; 19-16 yn 1972, 13-12 yn 1978 ac 26-25 yn 2004 yn enghreifftiau o hyn.

Bydd Seland Newydd heb nifer o'u henwau mawr yn erbyn Cymru ar 5 Tachwedd; Dane Coles, Brodie Retallick, Sam Cane, Folau Fakatava a Will Jordan ymysg y rhai fydd ddim yn ymweld. Ond fel mae'r hen cliché yn ein dysgu, does ddim y fath beth a thîm Crysau Duon gwan.

NZFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Crysau Duon yn dathlu ennill y Bencampwriaeth Rygbi eleni yn Stadiwm Marvel, Melbourne, 15 Medi 2022

line break

Yr Ariannin

Dydd Sadwrn, 12 Tachwedd. 17:30.

Nid tan 1991 y chwaraeoedd Cymru gêm brawf swyddogol yn erbyn Yr Ariannin am y tro cyntaf, a hynny yn ystod pwncampwriaeth Cwpan y Byd.

Roedd dwy gêm 'di-gap' rhwng y ddwy wlad yn Yr Ariannin yn 1968 - un fuddugoliaeth i'r Ariannnin ac un gêm gyfartal oedd y canlyniadau. Roedd hefyd gêm yng Nghaerdydd yn 1978 ble enillodd Cymru 20-19. Yn chwarae i Gymru y dydd hwnnw oedd Gareth Edwards, Phil Bennett, JPR Williams, JJ Williams, Derek Quinnell a'r rheng-flaen enwog o Bont-y-pŵl . Yn faswr i'r Ariannin ar gyfer y gêm oedd y dewin Hugo Porta.

Ers 1991 mae 20 gêm wedi bod rhwng y ddwy wlad; 13 buddugoliaeth i Gymru, chwech i'r Ariannin, ac un gêm gyfartal.

Eleni fe enillodd Yr Ariannin gyfres prawf yn erbyn Yr Alban ac ym mis Awst daeth buddugoliaeth yn erbyn y Crysau Duon yn Christchurch.

Ymysg sêr y Pumas mae'r asgellwr chwim Emiliano Boffelli o Gaeredin a'r ail-reng Tomás Lavanini o glwb ASM Clermont Auvergne. Ond un o'r chwaraewyr amlycaf fydd yn gwisgo'r glas a gwyn yw'r blaenasgellwr Pablo Matera. Mae Matera'n chwarae dros y Crusaders yn Seland Newydd, mae'n cludo'r bêl yn gryf ac yn chwaraewr hynod ysbrydoledig yn y pac.

ArianninFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Un o sêr Yr Ariannin, Pablo Matera, yn chwarae dros y Pumas yn erbyn De Africa yn Estadio Libertadores de América, Avellaneda, 17 Medi, 2022

line break

Georgia

Dydd Sadwrn, 19 Tachwedd. 13:00.

Dim ond tair gwaith y mae Cymru wedi chwarae Georgia, gyda Chymru'n ennill ar bob achlysur - 13-6 yn 2017, 43-14 yn 2019, ac 18-0 yn 2020.

Dros yr haf eleni fe enillodd Georgia yn erbyn Portiwgal a'r Eidal, ac mae gobeithion yn y wlad fod y garfan yn mynd o nerth i nerth.

Mae'r wlad eisoes wedi hawlio ei lle yng Nghwpan y Byd 2023 gan ennill Pencampwriaeth Rygbi Ewrop (yr ail haen o rygbi yn Ewrop o dan Bencampwriaeth y Chwe Gwlad).

Mae Georgia yn y 13fed safle yn netholion y byd ar hyn o bryd, uwchben Yr Eidal (14), Sbaen (15) a Tonga (16).

Mae'n debyg mai Mamuka Gorgodze yw'r enw mwyaf yn rygbi Georgia dros y blynyddoedd diweddar - roedd yr ail-reng yn chwarae dros Toulon tan iddo roi'r gorau i chwarae tair blynedd yn ôl.

Y dyddiau 'ma mae llawer o'r chwaraewyr, yn enwedig o'r blaenwyr, yn gwneud eu bywoliaeth yn Ffrainc, gyda'r prop Guram Gogichashvili o Racing 92 a'r blaenasgellwr Beka Gorgadze o Pau ymysg y chwaraewyr mwyaf dawnus.

georgiaFfynhonnell y llun, Federugby
Disgrifiad o’r llun,

Tîm Georgia'n dathlu buddugoliaeth gofiadwy yn erbyn Yr Eidal (28-19) ym mis Mehefin eleni.

line break

Awstralia

Dydd Sadwrn, 26 Tachwedd. 15:15.

Yn hanesyddol mae Cymru wedi gwneud yn well yn erbyn Awstralia na'r ddau fawr arall o Hemisffer y De (Seland Newydd a De Affrica). Ers 1908 mae'r timau wedi cwrdd 44 gwaith; 30 buddugoliaeth i Awstralia, 13 i Gymru, gydag un gêm gyfartal yn 2006.

Ennill dwy gêm a cholli pedair oedd hanes y Wallabies yn y Bencampwriaeth Rygbi eleni, gan orffen yn drydydd yn y tabl, un pwynt uwchben Yr Ariannin. Ar 29 Hydref fe enillodd Awstralia 16-15 yn erbyn Yr Alban, ond cyn hynny fe gollodd y Wallabies tair gêm yn olynol. Collodd Awstralia gyfres dair gêm yn erbyn Lloegr dros yr haf, ac roedd colled drom yn Yr Ariannin ym mis Awst, 48-17.

Ymysg y chwaraewyr mwyaf profiadol yng ngharfan y Wallabies mae'r maswr Bernard Foley, y prop James Slipper a'r blaenasgellwr sydd hefyd yn gapten, Michael Hooper.

HooperFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewr rheng-ôl y Wallabies sydd ag 122 o gapiau rhyngwladol i'w enw, Michael Hooper.

line break

Hefyd o ddiddordeb: