Ymgynghori ar uno dau o safleoedd ambiwlans awyr Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Alun Shorney: 'Targed awr aur yn amhosib o ganoli'

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn allweddol o ran penderfynu ar ddyfodol dau o safleoedd gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn y gogledd, mae arweinwyr iechyd wedi clywed.

Mae cynlluniau wedi cael eu llunio i ail-leoli safleoedd y gwasanaeth yng Nghaernarfon a'r Trallwng a chreu un canolfan yng nghanol y rhanbarth.

Mae'r awgrym wedi ennyn cryn wrthwynebiad mewn sawl ardal wledig.

Mewn cyfarfod ddydd Mawrth, clywodd prif weithredwyr holl fyrddau iechyd Cymru ac arweinwyr Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru y byddai'r cynlluniau'n gwella'r ymateb brys ar draws Cymru ac amseroedd aros i gleifion.

Mae adroddiad gan bwyllgor Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn cynnwys sawl opsiwn ond mae'n ffafrio creu un safle newydd yng nghanol y gogledd ger yr A55 - o bosib yn Sir Conwy neu Sir Ddinbych.

Mae BBC Cymru ar ddeall mai un o'r safleoedd sydd dan ystyriaeth ydy hen safle hofrennydd Heddlu Gogledd Cymru yn Rhuddlan, Sir Ddinbych.

Yn ôl ymchwil a gafodd ei rannu yn y cyfarfod, byddai cartrefu hofrenyddion a cherbydau eraill mewn un safle canolog yn caniatáu shifftiau gwahanol gan sicrhau bod meddygon ar gael am chwe awr yn rhagor bob dydd.

Y gred yw y byddai'r model newydd â'r potensial i alluogi meddygon "i fynychu 583 o alwadau yn rhagor er mwyn achub bywydau" a gwella amser ymateb y criw o 11 munud.

O ganlyniad fe fyddai'r gwasanaeth yn gwella'r ddarpariaeth mewn ymateb i'r galw o 72% i 88% gyda'r un nifer o hofrenyddion a staff meddygol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fel y mae pethau'n sefyll, mae pedwar hofrennydd y gwasanaeth wedi eu lleoli yng Nghaernarfon, Y Trallwng, Caerdydd a Llanelli

Dywedodd y Dirprwy Brif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans, Ross Whitehead wrth y pwyllgor y byddai'r newidiadau'n lleihau'r "adnoddau sy'n cael eu tan-ddefnyddio ac anghenion nad sy'n cael eu diwallu".

Fe nododd y Prif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans, Stephen Harrhy y byddai "ymgynghoriad yn bwysig" gan wahodd aelodau'r cyhoedd i leisio'u barn pan ddaw'r amser i wneud hynny.

Bydd y cynlluniau nawr yn cael eu cwblhau cyn i'r pwyllgor benderfynu pa bryd fydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal - yr wythnosau wedi'r Nadolig sy'n debygol.

Serch yr awgrym y byddai'r newidiadau'n cynyddu'r ddarpariaeth, mae ymgyrchwyr yn poeni am allu meddygon i gyrraedd safleoedd gwledig ar frys mewn ardaloedd fel Pen Llŷn, Powys a de Gwynedd.

Ffynhonnell y llun, Ambiwlans Awyr Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae adroddiad yn awgrymu y byddai criwiau'n gallu cyrraedd mwy o gleifion bob blwyddyn

Mae miloedd o lofnodion eisoes wedi eu derbyn gan ddeisebau ar-lein yn galw ar y gwasanaeth i beidio â chau na uno'r safleoedd.

Ond mae'r adroddiad yn nodi fod unrhyw awgrymiadau wedi eu gwneud ar sail "dadansoddiad trylwyr" o dystiolaeth er mwyn gwella'r ddarpariaeth mewn modd effeithiol ac effeithlon.

Mae'n dweud y byddai "pob sir yn elwa o gynnydd yn nifer yr achosion" y mae criwiau'n ymateb iddynt.

Bydd dyddiad ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gyhoeddi maes o law.