Dau aelod staff ysgol arbennig 'wedi ymosod ar fachgen'
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed bod dau aelod o staff mewn ysgol anghenion arbennig yn Rhondda Cynon Taf wedi ymosod ar dri o blant ag awtistiaeth.
Mae'r athrawes Laura Murphy a'r cynorthwyydd dysgu Mandy Hodges yn gwadu saith cyhuddiad o ymosod drwy guro a chreulondeb i blentyn dan 16 oed.
Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Ms Murphy a Ms Hodges wedi'u gweld gan aelodau eraill o staff yn Park Lane yn Aberdâr yn rhwygo amddiffynwyr clust oddi ar glustiau disgybl naw oed.
Cafodd y bachgen dan sylw - na ellir ei enwi - ei ddisgrifio fel un "difrifol awtistig, di-eiriau" a bod "sŵn yn achosi poen corfforol iddo".
'Ei wthio i lawr'
Ar ran yr erlyniad, dywedodd Emma Harris: "Mewn un weithred gyflym, fe rwygodd [Ms Murphy] amddiffynwyr ei glust o'i glustiau.
"Cydiodd Laura Murphy [y plentyn] gerfydd ei fraich a'i dynnu ar draws yr iard i'r fainc a'i wthio ef i lawr."
Dywedwyd wrth y rheithgor bod tad y bachgen wedi dweud bod ei fab wedi mynd o fod yn "fachgen hapus oedd yn mwynhau mynd i'r ysgol," i blentyn a "ddaeth yn gyndyn i fynd i'r ysgol, yn cael trafferth cysgu a ni fyddai'n caniatáu i'w dad addasu ei amddiffynwyr clust - rhywbeth yr oedd yn gallu ei wneud yn flaenorol".
Dywedodd Ms Harris fod y tad wedi sylwi ar y newid pan ddaeth Ms Murphy yn athrawes iddo. Roedd mor bryderus nes iddo gysylltu â'r pennaeth dros dro.
'Gweiddi yn ei wyneb'
Clywodd y llys yn ddiweddarach yr un diwrnod - 19 Hydref 2020 - fod aelod staff wedi sylwi ar y diffynnydd Mandy Hodges, cynorthwyydd dysgu, y tu allan i iard yr ysgol gyda'r un plentyn.
"Roedd [y plentyn] i'w weld yn crio ac roedd yn taro braich Mandy Hodges," meddai Ms Harris wrth y llys.
Ychwanegodd fod Ms Hodges wedi ymateb drwy "blygu i lawr, gyda'i hwyneb yn ei wyneb ef, a gweiddi 'stop' yn ei wyneb. Yna rhwygodd amddiffynwyr ei glust.
"Fe glywch ei fod wedi ceisio eu cael yn ôl. Roedd yn crio a gellid ei weld yn pwnio ei hun i ochr ei ben. Er gwaethaf hyn cerddodd Mandy Hodges i ffwrdd, gan gario'r amddiffynwyr clust gyda hi."
Mae'r achos yn parhau.