Creu grŵp i roi hyder i fenywod fentro ym myd busnes
- Cyhoeddwyd
Helpu menywod i ddatblygu busnesau a llwyddo yw bwriad grŵp rhwydweithio newydd sydd wedi ei sefydlu yng Nghaerfyrddin.
Janet Collins, partner mewn cwmni cyfrifwyr yn y dref, yw cyd-sylfaenydd 4Ivy.
Roedd hi'n teimlo fod angen sefydliad newydd i fenywod mewn busnes neu mewn swydd ar lefel rheoli.
Dywed bod llawer o fenywod, ar ôl y pandemig, wedi gweld diffyg hyder i ailgydio mewn cysylltiadau busnes, a bod hwn yn gyfle i greu rhai o'r newydd ac i ailddechrau.
Gwahaniaeth
"Ma' pobl 'di bod adre yn edrych ar bedair wal adeg Covid ac yn gweithio yn y gegin neu yn 'stafell wely gyda'r teulu o'u cwmpas nhw," meddai.
"Yn ein cyfarfod cyntaf fel grŵp fe weles i bod e yn gneud gwahaniaeth i ddod mas i siarad â bobl wyneb yn wyneb a dweud sut chi yn teimlo.
"Fe nethon ni drafod cynllunie pobl am y flwyddyn nesaf a rhoi cynllunie busnes at ei gilydd."
Yn ôl Janet bydd cyfle yn y cyfarfodydd nesaf i drafod cefnogaeth adnoddau dynol, systemau digidol, hunan-ddatblygiad a llawer o bethau eraill.
"Hyder yw y peth mwya' pwysig ymysg y menywod i gyd," meddai Janet, sy'n teimlo fod nifer yn cael teimladau o hunan-amheuaeth ac anallu personol er gwaethaf eu haddysg, profiad, a'u llwyddiannau.
"Ma' peth i gael o'r enw Impostor Syndrome. Does dim ishe i fenywod deimlo fel'na...
"Ma' rhai pobl yn dishgwl gweld dyn fel cyfrifydd. Fi yn credu bo fi fel menyw yn gallu neud pobl yn gartrefol."
Ond o dro i dro bydd rhywun yn gofyn iddi: "Are you qualified?"
"Bydden nhw ddim yn gofyn hynna i ddyn... bydden i ddim yma os na bydden i!" medd Janet.
Ond mae'n cydnabod mai traddodiad yw'r ymateb hynny gan fod pobl yn dueddol o feddwl taw dim ond dynion all wneud y swydd.
"Felly fi yn credu bod e yn bwysig i roi hyder i fenywod i w'bod bo' nhw gallu neud beth ma' nhw mo'yn, pryd ma' nhw mo'yn a bod rhywun allan yn fanna i helpu nhw i sefydlu busnesau a pwsho nhw 'mla'n."
Un sy'n croesawu sefydlu'r grŵp yng Nghaerfyrddin yw Helen Antoniazzi, cyfarwyddwr polisi'r elusen Chwarae Teg sy'n ymgyrchu dros helpu menywod i gyflawni a ffynnu.
"Y dystiolaeth sy' genno ni yw bod menywod angen cyfleodd i siarad â'i gilydd, rhwydweithio, dysgu gwersi wrth ein gilydd a chael y gefnogaeth peer-to-peer i drafod y probleme ma' nhw'n wynebu a ffindo atebion," meddai.
Ychwanegodd fod hi wedi "bod yn really anodd i bawb dros Covid ond yn enwedig os ydych chi yn rhedeg busnes ar ben eich hun - mae'n anodd cael y rhwydwaith yna a'r gefnogaeth.
"Mae lot o bobl wedi colli hyder adeg Covid ac mae'r ffaith bo' nhw methu cael sgyrsiau yn neud pethe yn anoddach. Felly mae yn bwysig cael rhwydwaith fel yr un yng Nghaerfyrddin i greu y cyfleon i fenywod mewn busnes."
'Rwy'n fenyw gryf, annibynnol'
Ym Mhorth Tywyn, mae Holly a Lee Weston-Zygadlo yn rhedeg busnes Caffi Lolfa.
Maen nhw'n ehangu ac ar fin agor caffi newydd yn y dref. Mae'r ddau'n cefnogi sefydlu grŵp busnes i fenywod, ac yn gweld hyn fel cyfle da i feithrin sgiliau a dysgu o brofiadau pobl eraill.
Dywed Lee mai fo sy'n paratoi'r bwyd, ond "Hollie yw yr un â'r vision" ac mae'r ddau'n "gweithio fel partneriaeth ymhob syniad a phenderfyniad".
Mae rhedeg busnes yn anodd, medd Holly, ac mae unrhyw gair o gyngor i'w groesawu, yn enwedig mewn cyfnodau "ble gallwch chi deimlo'n eitha' bach, wedi gorlethu a ddim yn cael eich cymryd o ddifri' weithiau".
"Sawl tro rwy' wedi gorfod cymryd anadl ddofn a dweud wrth fy hun 'rwy'n fenyw gryf, annibynnol, ac rwy' mewn partneriaeth hefyd'.
"Weithiau mae pobl yn meddwl taw ei fusnes e yw e, ond ry'n ni mewn partneriaeth a wastad yn gweithio gyda'n gilydd."
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "meithrin diwylliant entrepreneuraidd er mwyn creu mwy o fusnesau newydd yn rhan allweddol o'n hymrwymiad i helpu pawb yng Nghymru i wireddu eu potensial, ac i wneud Cymru yn rhywle lle mae mwy o bobl ifanc yn teimlo'n hyderus wrth gynllunio eu dyfodol."
"Mae grantiau o hyd at £2,000 ar gael i bobl sy'n awyddus i ddilyn hunangyflogaeth drwy'r Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes, sydd i'r rhai sy'n 25 oed neu'n hŷn a allai fod yn wynebu rhwystrau o ran sefydlu busnesau newydd a'r farchnad gyflogaeth.
Ond mae rhai 'n dweud y gallai'r system grantiau fod yn fwy hwylus er mwyn rhoi hyder i fenywod ym myd busnes.
Gyda'r plant wedi mynd i'r coleg mae'r gyfreithwraig Luned Wyn Voyle o Landdarog newydd ddechrau busnes ei hun, gan gynnig gwasanaethau cyfreithiol. Roedd hi yn nghyfarfod cyntaf y grŵp rhwydweithio.
"Fe fues i yn meddwl sefydlu busnes fy hunan ers sawl blwyddyn a meddwl bod yr amser wedi dod ar ôl Covid. Roedd cyfle wedi dod i ddodi stamp fy hunan ar rwbeth a rhoi gwasanaeth personol i gleientiaid," meddai.
"Wrth ddechre fe fues i ar sawl cwrs defnyddiol ar-lein gyda Busnes Cymru yn edrych ar bethe fel sut i redeg busnes a marchnata.
"Ond rhaid dweud bo' fi yn siomedig bod dim grantiau ar gael i fusnes bach i fi i ddechre... hyd yn oed rwbeth gwerth tua £500, £1,000 er mwyn buddsoddi mewn cyfrifiaduron, meddalwedd a deunydd marchnata. Doedd dim byd fel'na i gael."
Roedd digon o gyngor yn ôl Luned, "ond efallai bydde mwy o help ariannol 'di bod yn ddefnyddiol".
"Rwy'n teimlo bydd rwbeth bach fel'na wedi bod o help mawr i fusnes bach fel fi a busnese er'ill oedd ar y cwrs i roi ni ar ben ffordd. Bydde hynna wedi rhoi hyder i chi bod rwbeth ar gael a bod rhywun yn credu ynddoch chi."
Mae'r llanw'n troi i fenywod mewn busnes yn Sir Gaerfyrddin ac yn ôl Luned mae'r fenter newydd yn fodd o sicrhau bod llwyddiant ar y gorwel.
Mae'n "help a'n gyfle da i rannu syniadau mewn awyrgylch cartrefol sy'n rhoi hyder i bobl ac yn dangos i fenywod fel fi bo chi gallu neud e a bod e eisoes yn cael ei 'neud".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2022
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2022