Menywod ym myd busnes yn dal i gael 'amser caled'

  • Cyhoeddwyd
Anne Boden
Disgrifiad o’r llun,

Sefydlodd Anne Boden fanc Starling yn 2014, ac mae'r busnes bellach gwerth dros £1bn

Mae pennaeth Cymreig banc Starling yn dweud ei bod yn gobeithio na fydd menywod yn wynebu'r un rhywiaeth a oedd yn rhaid iddi hi ei oresgyn wrth ddechrau'r busnes.

Sefydlodd Anne Boden y banc yn 2014, ac mae'r busnes bellach gwerth dros £2bn.

Ond dywedodd fod menywod ym myd busnes yn cael eu trin fel "wyau berw" gan gydweithwyr gwrywaidd.

"Maen nhw naill ai'n rhy galed neu'n rhy feddal, ond byth yn hollol iawn," meddai.

'Neb yn fy nghredu i'

Dechreuodd Ms Boden yrfa 40 mlynedd mewn bancio ar ôl gadel Prifysgol Abertawe gyda gradd mewn cyfrifiadureg.

Ar ôl argyfwng ariannol 2008 roedd hi'n bryderus am berthynas banciau â'u cwsmeriaid, a dechreuodd ar gynllun i lansio Starling.

Roedd yn cynnwys ymgyrch hirdymor o ddenu buddsoddiadau, a ddaeth i ffrwythlondeb yn y pen draw.

Ffynhonnell y llun, Starling
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Starling Bank bron i dair miliwn o gyfrifon personol a busnes bellach

"Dyna lle oeddwn i, yn curo ar ddrysau, yn dweud bod gen i syniad gwych," meddai.

"Ond doedd neb yn fy nghredu i, a fydden nhw falle wedi fy nghredu pe bawn i'n fath gwahanol o berson.

"Ond dwi'n Gymraes, yn bum troedfedd o daldra, ac yn eitha' penderfynol bod gyda ni gyfle i newid y diwydiant bancio.

"Fe wnes i ddyfalbarhau, a dwy flynedd yn ddiweddarach fe ges i'r cyllid i adeiladu rhywbeth mor arbennig â hyn."

'Cyfrifoldebau arbennig'

Mae gan Starling Bank bron i dair miliwn o gyfrifon personol a busnes, ac mae'n cyflogi staff yn Llundain, Southampton a Chaerdydd.

Agorodd Ms Boden ei swyddfa yng Nghaerdydd yn 2020 gyda chynlluniau i gyflogi 400 o staff, ond erbyn hyn mae ganddi bron i 900 yn gweithio yn y ddinas.

"Yr hyn rydw i fwyaf balch ohono yw'r bobl sy'n gweithio yma, sydd wir yn credu bod gan y proffesiwn o fod yn fanciwr, o fod yn dechnolegydd, gyfrifoldebau arbennig," meddai.

"Rydyn ni'n gofalu am arian pobl. Mae honno'n swydd gyfrifol, ac rydym am ei gwneud yn dda."

Disgrifiad o’r llun,

Mae bron i 900 o bobl yn gweithio yn swyddfa Starling yng Nghaerdydd

Roedd cychwyn y banc yn golygu aberth bersonol enfawr i Ms Boden, a werthodd ei chartref yn Abertawe i helpu talu rhai o'r biliau enfawr a ddaeth cyn i fuddsoddwyr gefnogi'r syniad.

Roedd hi hefyd yn ymwybodol iawn nad Cymraes yn ei 50au oedd y sylfaenydd busnes arferol, gyda rhagfarnau yn ychwanegu rhagor o rwystrau.

Mae Ms Boden o'r farn fod menywod yn dal i wynebu heriau ychwanegol ym myd busnes o'u cymharu â chydweithwyr gwrywaidd.

"Mae llawer o fenywod yn y diwydiant yn cael amser caled i gyrraedd y swyddi maen nhw'n eu haeddu," meddai.

"Weithiau mae hyn oherwydd y syndrom 'wyau berw'. Maen nhw naill ai'n rhy galed, neu'n rhy feddal, ond byth yn hollol iawn."

'Ysbrydoliaeth'

A yw ei llwyddiant hi wedi ei gwneud pethau'n haws i fenywod fydd yn dilyn ei llwybr?

Atebodd: "Rwy'n mawr obeithio y bydd cael ysbrydoliaeth gen i yn gwneud pethau'n haws i lawer o fenywod.

"Rwy'n dechnolegydd, gyda gradd cyfrifiadureg a chemeg o Brifysgol Abertawe.

"Rwyf wedi dechrau banc sy'n un o'r arweinwyr yn y byd ym maes fin-tech.

"Gall pobl o Gymru wneud hyn, a gallwn arwain y byd, a gallwn fod yn fenywod."

Pynciau cysylltiedig