Cymro mewn coma 'ar ôl i staff clwb nos Magaluf ymosod arno'
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Gaerdydd a dreuliodd dridiau mewn coma ym Magaluf, Sbaen yn rhybuddio pobl ifanc i fod yn ofalus tra ar wyliau yno.
Mae Josh Pesticcio, 24, yn dweud ei fod wedi dioddef "ymosodiad creulon" gan aelod o staff clwb nos ar ynys Mallorca tra ar wyliau gyda grŵp o ffrindiau.
Cafodd waedlif ar yr ymennydd a dywedodd iddo gael gwybod y byddai wedi marw pe bai wedi cyrraedd yr ysbyty yn hwyrach nac y gwnaeth.
Dywedodd swyddogion yn Sbaen fod y grŵp wedi bod yn ymladd y tu allan, ac mai dyna arweiniodd at yr anafiadau.
Daw hyn wrth i deulu arall ymgyrchu'n llwyddiannus am gwest yn y DU i farwolaeth eu mab.
Roedd Josh ar wyliau gyda 24 o ffrindiau o'i glwb pêl-droed, a phedwar o'u tadau.
Fe gyrhaeddon nhw'r ynys yn gynnar gyda'r nos ar 26 Mehefin eleni a chael swper ac ychydig o ddiodydd cyn mynd i Magaluf ei hun.
Dywedodd Josh nad oedd yr un o'r grŵp wedi meddwi'n ormodol.
"Mae pawb yn cael diodydd, yn sgwrsio yn cael dipyn o chwerthin cyn i un o'r bechgyn, oedd yn amlwg wedi tynnu sylw'r bownsars, neidio ar gefn un o'r bechgyn arall," meddai Josh.
Dywedodd fod y bownsar wedi ei dynnu i ffwrdd a dweud "allwch chi ddim gwneud hyn".
Erbyn i'r grŵp setlo i lawr, roedd diod wedi troi drosodd, a dywedodd Mr Pesticcio fod y bownsar wedi ei lusgo allan o'r clwb.
'Josh ar y llawr, wyneb i lawr'
Pan aeth ei ffrind Joel Norris, 23, i chwilio amdano, daeth o hyd i Josh yn gorwedd yn anymwybodol ar y llawr.
"Wnes edrych i fy chwith a gwelais Josh ar y llawr, wyneb i lawr... Roedd yna lwybr mawr o waed yn llifo i lawr y palmant yn barod," meddai.
"Doedd e ddim yn effro nac yn ymateb."
Dywedodd ffrind arall, Rhys Rogan, 26, iddo ddod allan o'r clwb gan weld cylch mawr o bobl.
"Doedd gen i ddim syniad fod fy ffrindiau'n rhywbeth i'w wneud â beth bynnag oedd yn digwydd ac fe es i fy hun trwy'r cylch, cyn i mi weld Josh ar y llawr wedi'i orchuddio â gwaed," meddai.
"Roedd Joel drosto, ac roedd yna bobl yno'n recordio felly fe wnes i sobri ar unwaith, cymerodd adrenalin drosodd a'r peth cyntaf ar fy meddwl oedd helpu Josh.
"A bod yn onest, roeddwn i'n meddwl ei fod wedi marw pan welais e gyntaf. Yn gorwedd ar ei gefn, ac roedd ei anadlu yn erchyll."
Fel swyddog carchar roedd Rhys wedi derbyn hyfforddiant cymorth cyntaf.
"Doeddwn i ddim eisiau ei symud yn ormodol o gwbl rhag ofn iddo achosi unrhyw niwed pellach," meddai.
'Troi cefn ar y sefyllfa'
Erbyn hyn, dywedodd Joel fod pobl wedi dechrau ymladd tu allan i'r clwb, gyda'r Guardia Civil yn rhan o'r digwyddiad - asiantaeth gorfodi'r gyfraith yn Sbaen ac un o'r ddau heddlu cenedlaethol.
"Roeddwn i'n sgrechian am help oherwydd roeddwn i'n gwybod bod Josh mewn cyflwr gwael," meddai Joel.
"Doedd neb oedd yn gweithio yno eisiau helpu na ffonio ambiwlans, er ei bod yn amlwg fod angen hynny, ac fe wnaethon nhw droi cefn ar y sefyllfa wnaethon nhw ei achosi."
Dywedodd fod y chwydd yn "eithaf difrifol" ar unwaith a bod gwaed yn arllwys o drwyn a cheg Josh.
Roedd Josh mewn coma am dridiau a dywedodd ei dad, Steve Pesticcio, bod gweld ei fab yn y ffordd yna yn "erchyll" ac nad oedd "yn meddwl y byddai'n para'r diwrnod".
"Roedd yn dorcalonnus. Dyna fy machgen i. Mae'n un o fy mhlant," meddai.
"Agorodd ei lygaid a dywedon nhw y byddai'n goroesi.
"Roedd yn union fel ein bod wedi ennill y loteri gan y dywedon nhw ei fod o fewn awr i golli ei fywyd."
'Dim tystiolaeth i arestio'
Pan aeth Steve at yr heddlu i adrodd y digwyddiad fel ymgais i lofruddio, dywedodd eu bod wedi dweud wrtho am aros tra'u bod yn delio â ffôn dynes oedd ar goll.
"Fe ddywedon nhw eu bod yn ymwybodol o'r sefyllfa, rhoi rhif trosedd i mi a dweud eu bod yn ymchwilio."
Ond dywedodd y teulu mai dyna'r olaf iddyn nhw glywed.
Dywedodd y Guardia Civil fod dau grŵp meddw wedi bod yn ymladd yn y clwb, a bod hynny wedi parhau tu allan.
Ychwanegodd llefarydd fod swyddogion wedi gwylio lluniau camera cylch cyfyng ac edrych ar ddwylo staff y clwb ac nad oedd tystiolaeth i arestio unrhyw un.
Ond dywedodd Josh fod ymosodiadau fel hyn yn digwydd yn rheolaidd.
Bu farw Tobias White-Sansom, 35 oed o Nottingham, ar ôl digwyddiad tebyg tu allan i glwb nos arall ar yr un stryd.
Dywedodd ei fam, Lorraine Thompson, fod staff clwb nos wedi ymosod ar ei mab - a oedd yn dad i ddau o blant - yn dilyn ffrae am y ffaith ei fod wedi tynnu ei grys-T i ffwrdd am ei bod yn boeth.
Yn ôl Ms Thompson fe wnaeth y Guardia Civil roi cyffion ar ei mab, ei saethu gyda gwn Taser a'i chwistrellu gyda tranquiliser. Cafodd Tobias ataliad ar y galon a bu farw yn yr ysbyty.
Dywedodd Ms Thompson fod awtopsi yn Sbaen wedi dod i'r canlyniad fod marwolaeth ei mab yn ymwneud â chyffuriau.
Ond mae ei deulu yn anghytuno, ac yn gofyn am awtopsi arall, annibynnol.
Mae'r teulu bellach wedi cael gwybod y bydd crwner yn y DU yn ymchwilio i'r farwolaeth.
'Magaluf yn lle diogel'
Dywedodd Josh Pesticcio ei fod yn "anhygoel o lwcus" i beidio â dioddef unrhyw anafiadau parhaol, er nad yw wedi gallu dychwelyd i chwarae pêl-droed.
Mae Josh eisiau i ymwelwyr eraill â Sbaen fod yn ymwybodol o'r hyn allai ddigwydd ar noson allan.
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth yr Ynysoedd Balearaidd fod "Magaluf, fel gweddill Mallorca a'r Ynysoedd Balearaidd, yn lle diogel".
"Mae wastad wedi bod, a bydd yn parhau i fod yn y dyfodol."
Ychwanegodd fod achosion o anafiadau difrifol wedi gostwng 90% ym Magaluf ers 2018.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd3 Mai 2017