Anaf difrifol i wddf dyn 80 oed yn Stadiwm Principality
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 80 oed yn parhau i gael triniaeth yn yr ysbyty ar ôl cael anaf difrifol i'w wddf yn Stadiwm Principality.
Yn ôl yr heddlu, cafodd y dyn ei "daro drosodd" yn ystod ffrae honedig rhwng dau ddyn arall yn ystod gêm Cymru yn erbyn Seland Newydd ddydd Sadwrn 5 Tachwedd.
Mae dau ddyn, 20 a 32, wedi eu harestio ar amheuaeth o ymosod ac wedi eu rhyddhau wrth i'r ymchwiliad barhau.
Mae'r heddlu'n apelio o'r newydd am wybodaeth a deunydd fideo.
"Ry'n ni nawr yn awyddus i glywed gan unrhyw un allai fod â deunydd fideo o'u ffonau symudol o'r hyn ddigwyddodd yn yr eiliadu cyn i'r dyn mewn oed gael ei daro drosodd," dywedodd PC Georgina Charlton.
Ychwanegodd yr heddlu fod teulu'r dyn gafodd ei anafu yn "ddiolchgar" am y gefnogaeth gan y gymuned rygbi.
'Dim lle i ymddygiad o'r fath'
Mewn datganiad gan Undeb Rygbi Cymru, dywedodd prif weithredwr y grŵp, Steve Phillips, eu bod yn cefnogi Heddlu De Cymru gyda'u hapêl newydd am wybodaeth.
"Ry'n ni'n diolch i'n stiwardiaid a'n swyddogion ymateb oedd yno am ymateb mor gyflym ac mae'n meddyliau gyda'r unigolyn diniwed gafodd ei effeithio a'i deulu.
"Ry'n ni'n condemnio ymddygiad y rheiny oedd yn rhan o'r digwyddiad ac yn dymuno gwellhad buan i'r unigolyn."
Dywedodd na allai wneud sylw pellach tan i'r heddlu orffen eu hymchwiliad, ond fe wnaeth gadarnhau na fyddai croeso'n ôl i Stadiwm Principality i unrhyw un oedd yn gyfrifol am y digwyddiad.
"Does gan ymddygiad gwrth-gymdeithasol o unrhyw fath ddim lle o fewn rygbi Cymru," ychwanegodd.
"Ry'n ni'n ailadrodd ein hapêl i gefnogwyr fwynhau yn gyfrifol ddydd Sadwrn wrth fynychu gêm Yr Ariannin a'r gemau sy'n dilyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2022