Cyn-filwr o Lanelli wedi marw drwy anffawd - cwest
- Cyhoeddwyd
Mae rheithgor cwest wedi dod i gasgliad bod cyn-filwr wedi marw ar ôl anafu ei wddf gyda photel oedd wedi torri.
Clywodd y cwest bod Spencer Beynon, 43, wedi dioddef o iselder a PTSD ar ôl cael ei ryddhau o'r fyddin am resymau meddygol, a'i fod wedi troi at gyffuriau.
Ar 14 Mehefin 2016, bu farw Mr Beynon - fu'n gwasanaethu yn Irac ac Afghanistan - ar stad Maes y Bwlch yn ardal Morfa, Llanelli.
Bu farw yn dilyn digwyddiad pan drodd ei ymddygiad yn dreisgar ac anafodd ei hun gyda photel oedd wedi torri.
Clywodd y rheithgor ym Mharc y Scarlets fod hynny wedi arwain at anaf difrifol i wythïen yn ei wddf.
Ar ôl cwest wnaeth bara 10 diwrnod, daeth y rheithgor i'r casgliad mai achos marwolaeth Mr Beynon oedd marwolaeth drwy anffawd.
Gwn Taser
Fe gafodd Mr Beynon ei weld yn ymddwyn yn ymosodol ac yn taro'i ben yn erbyn drws gan bobl oedd yn byw gerllaw a gysylltodd â'r heddlu.
Pan gyrhaeddodd ddau swyddog heddlu, roedd Mr Beynon eisoes â gwaed dros ei gorff yn sgil yr anaf i'w wddf.
Cafodd ei saethu â gwn Taser gan PC Oliver West, a ddywedodd wrth y cwest fod Mr Beynon wedi symud tuag ato ar ôl bod yn eistedd ar stepen ddrws.
Cafodd y datganiad hwn ei gefnogi gan gydweithiwr yr heddwas, PC Sian Beynon, a ddywedodd iddi weld Spencer Beynon yn symud "fel petai'n dod atom ni".
Fe wnaeth rhai llygad dystion yn y cwest ddadlau nad oedd hynny'n wir, gan ddweud fod Mr Beynon yn eistedd.
Bu farw Mr Beynon o anafiadau i'w wddf ac ar ôl colli gwaed.
Fe wnaeth uwch-grwner dros dro Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, Paul Bennett, ddweud wrth y rheithgor i ystyried a oedd hi'n rhesymol i'r heddwas feddwl bod Mr Beynon yn fygythiad cyn defnyddio'r gwn Taser.
Ni ofynnwyd iddyn nhw ystyried a oedd y gwn Taser wedi cyfrannu at y farwolaeth.
Daeth y rheithgor i gasgliad, o fwyafrif o 10 i un bleidlais, ei bod yn weithred resymol i ddefnyddio gwn Taser wrth i Mr Beynon symud tuag at y swyddog heddlu, a ystyriodd hynny fel bygythiad.
'Ymddygiad yr heddweision yn rhesymol'
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn "cydnabod" casgliad y cwest, ac yn cydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau Mr Beynon.
"Rydym yn cydnabod fod y digwyddiadau ar y noson fu farw Spencer Beynon yn drawmatig i bawb oedd yn rhan ohono - rheiny oedd yno a'r teulu a ffrindiau sy'n dal i alaru amdano," meddai.
"Rydym hefyd yn cydnabod fod y rheithgor, ar ôl clywed tystiolaeth helaeth yn y cwest, yn cefnogi'r farn fod ymddygiad yr heddweision yn rhesymol, a'u bod wedi wynebu amgylchiadau heriol iawn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2022