Dyn yn gwadu llofruddio dynes trwy ei tharo gyda char
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi gwadu llofruddio dynes 22 oed fu farw ar ôl cael ei tharo gan gar.
Bu farw Rebecca Steer o Lanymynech, sydd ar y ffin rhwng Powys a Sir Amwythig, ar ôl cael ei tharo gan gar oedd wedi mynd dros ochr palmant yng Nghroesoswallt ar 9 Hydref.
Fe wnaeth Stephen McHugh, 27 oed o Groesoswallt, bledio'n ddieuog i gyhuddiad o lofruddiaeth yn Llys y Goron Stafford ddydd Gwener.
Mae hefyd wedi'i gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol, a hynny i ddyn a gafodd ei anafu yn yr un digwyddiad.
Dywed yr heddlu fod y car, wnaeth ddim stopio wedi'r digwyddiad, wedi mynd ar y pafin a tharo dau o bobl tu allan i fwyty am tua 02:50 ar fore Sul.
Bu farw Ms Steer, oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol John Moores yn Lerpwl, yn Ysbyty Brenhinol Amwythig yn fuan wedi iddi gael ei tharo gan y cerbyd.
Cafodd Mr McHugh ei gadw yn y ddalfa nes ei ymddangosiad llys nesaf ar 8 Mawrth, ac mae disgwyl i'r achos yn ei erbyn ddechrau ar 19 Ebrill.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2022