Gwrthdroi dedfryd o garchar i ffermwr o Wynedd

  • Cyhoeddwyd
CiFfynhonnell y llun, RSPCA
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ci bach du ei ganfod mewn cawell bach rhydlyd ar fferm David Thomas

Mae barnwr wedi gwrthdroi dedfryd o garchar i ffermwr o Wynedd wnaeth dorri gwaharddiad o wyth mlynedd rhag cadw cŵn.

Yn gynharach yr wythnos hon cafodd David Williams Lloyd Thomas, 56 oed o Fferm Cwm Bowydd, Blaenau Ffestiniog ei garcharu am 24 wythnos gan farnwr rhanbarthol yn Llandudno.

Roedd wedi ei wahardd rhag cadw cŵn yn 2018 ar ôl achos llys yn ymwneud â'r defnydd o gŵn i ymladd moch daear.

Clywodd Llys Ynadon Llandudno fod Thomas wedi anwybyddu'r gwaharddiad a bod y Gynghrair yn Erbyn Chwaraeon Creulon wedi cynnal cyrch cudd i'w wylio.

Ei frawd a phlant yn dibynnu arno

Ond yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener penderfynwyd y bydd y ddedfryd yn cael ei gostwng i 13 wythnos o garchar, wedi'i ohirio am flwyddyn.

Penderfynodd y Barnwr Nicola Saffman, oedd yn eistedd gydag ynadon ar gyfer y gwrandawiad apêl, y bydd yn rhaid i Thomas hefyd wneud 200 awr o waith heb dâl a thalu £756 mewn costau.

Bydd y gwaharddiad ar gadw cŵn, a osodwyd arno yn 2018, yn parhau.

Ffynhonnell y llun, RSPCA
Disgrifiad o’r llun,

Daeth yr achos yn erbyn Thomas i'r amlwg ar ôl ymchwiliad gan y Gynghrair yn Erbyn Chwaraeon Creulon

Roedd Thomas wedi pledio'n euog i gyhuddiadau o dorri'r gwaharddiad, o gicio ci, ac o fethu ag edrych ar ôl 29 o gŵn a ddau ffuret yn iawn.

Dywedodd y barnwr ei bod y gwneud y penderfyniad i'w ryddhau o'r carchar oherwydd yr effaith ar ei frawd, sy'n rhannu'r cyfrifoldeb o redeg y fferm.

Ychwanegodd fod dau o blant yn dibynnu ar gefnogaeth emosiynol ac ariannol Thomas.

Pynciau cysylltiedig