Ollie Cooper i ymuno â charfan Cymru yn Qatar
- Cyhoeddwyd
Bydd chwaraewr ganol cae Abertawe, Ollie Cooper, yn ymuno â charfan Cymru yn Qatar.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau y bydd y chwaraewr 22 oed yn ymuno gyda Jordan James ar y rhestr wrth gefn.
Roedd chwaraewr Fulham, Luke Harris wedi ei enwi fel chwaraewr wrth gefn yn wreiddiol.
Ond fe gyhoeddwyd brynhawn Gwener na fydd bellach yn teithio gyda'r garfan i Qatar oherwydd "rhesymau personol".
Ni fydd Cooper na James yn gallu chwarae gemau yng Nghwpan y Byd gan nad ydyn nhw wedi eu henwi yn y rhestr o 26.
Ond dywedodd y rheolwr Rob Page y byddan nhw'n teithio gyda'r garfan i gynorthwyo gyda'u datblygiad ac i fagu profiad.
Bydd modd eu hychwanegu i'r garfan swyddogol os oes un o'r 26 yn gorfod tynnu allan cyn gêm gyntaf Cymru ar 21 Tachwedd.
Dyw Cooper heb ennill yr un cap dros ei wlad eto, ond mae wedi gwneud 16 ymddangosiad i'r Elyrch y tymor yma gan sgorio deirgwaith.
Yn fab i gyn-chwaraewr Caerdydd, Casnewydd a Chastell Nedd, Kevin Cooper, fe ymunodd Ollie Cooper â'r Elyrch pan oedd ond yn 12 oed.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2022