'Braf bod yr Ŵyl Cerdd Dant yn ôl yn Sir Drefaldwyn'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ŵyl Cerdd Dant gyntaf ers tair blynedd yn cael ei chynnal yn Llanfyllin.
Bu rhaid gohirio'r ddwy ŵyl flaenorol oherwydd y pandemig.
Dywedodd cadeirydd Gŵyl Cerdd Dant Bro Nansi Alun Jones iddi fod yn her "ail-greu ymwybyddiaeth bod yr ŵyl ymlaen a'r brwdfrydedd", ond bod nifer y cystadleuwyr yn uchel.
Ond ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru, dywedodd fod y digwyddiad "yn real iawn erbyn heddiw" a bod 'na "edrych ymlaen mawr, mawr at y cystadlu".
Clwy traed a'r genau
Nid dyma'r tro cyntaf i'r Ŵyl Cerdd Dant gael ei gohirio yn Sir Drefaldwyn. 55 mlynedd yn ôl, yn 1967, bu'n rhaid atal Gŵyl Llanfyllin oherwydd clwy'r traed a'r genau.
"Oedd hi'n amser od adeg hynny," meddai Alun Jones. "Siŵr, oedd o'n echrydus o beth yn yr ardal yma, clwy'r traed a'r genau.
"Aru o gychwyn lawr y ffordd, ddim yn bell o Groesoswallt. Ond dyna ni, 'da ni 'di brwydro ymlaen, a mae'n braf cael hi'n ôl yn yr ardal yma.
'Di hi'm 'di bod yn Sir Drefaldwyn yma ers dros hanner can mlynedd ac oedd hynna'n un o'r rhesyma oeddan ni isio hi'n ôl."
Mae 'na draddodiad cyfoethog o ganu cerdd dant a chanu gwerin yn y canolbarth gyda nifer o enwogion yn y maes yn dod oddi yno.
"Maldwyn oedd ardal enedigol y delynores Nansi Richards (Telynores Maldwyn) ac er iddi farw yn 1979 mae Alun Jones yn dweud bod ei dylanwad yn parhau.
"Dwi'm yn cofio'n fawr amdani, ond mae rhai sy' di dod dan ei dylanwad hi yn deud ei bod hi'n ddynes a hanner 'de. Cymeriad mawr ac athrylith."
Roedd gan y cerddor gwerin Elfed Lewis hefyd gysylltiadau â'r ardal, ac o'r cylch y daw'r grŵp gwerin Plethyn a'r gantores Siân James.
Canu plygain
Dyma hefyd gartref canu plygain, ac am y tro cyntaf eleni mae 'na gystadleuaeth canu plygain yn yr Ŵyl Cerdd Dant.
Er gwaetha'r oedi ers i'r ŵyl ddiwethaf gael ei chynnal, dywedodd Alun Jones ei fod o a gweddill y pwyllgor sydd wedi bod yn ei threfnu yn fodlon gyda nifer y cystadleuwyr.
"Dwi'n meddwl bod ni gyd yn hapus," meddai.
"[Mae'r pandemig] 'di cael dipyn o effaith ar nifer yr ysgolion sy'n cystadlu... ond mae nifer yr unigolion, triawde, pedwarawde a phartïon yn uchel iawn, diolch byth am hynny".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2019