Gohirio Gŵyl Cerdd Dant Cymru eto tan 2022

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, Llio Penri yn trafod gohirio'r ŵyl

Mae Gŵyl Cerdd Dant Cymru wedi ei gohirio am flwyddyn arall oherwydd argyfwng coronafeirws.

Fel yn 2020 roedd yr ŵyl eleni i fod i gael ei chynnal yn Llanfyllin ar 13 Tachwedd.

Dywedodd Llio Penri, cadeirydd pwyllgor gwaith Cymdeithas Cerdd Dant Cymru: "Eto eleni, roedd pwyllgor gwaith y Gymdeithas Cerdd Dant yn gwbl unfrydol yn y penderfyniad i ohirio Gŵyl Cerdd Dant Bro Nansi ynghyd â gweithgareddau eraill y Gymdeithas.

"Er y siom, roedd y penderfyniad rhagofalus hwn yn anorfod.

"Roedd ymwybyddiaeth o'n cyfrifoldeb i barhau i ddiogelu iechyd y cyhoedd yn y cyfnod blin hwn yn llywio pob penderfyniad."

Y tro diwethaf i'r ŵyl gael ei chynnal yn Llanfyllin yn 1967 bu'n rhaid ei gohirio bryd hynny oherwydd Clwy'r Traed a'r Genau.

Ffynhonnell y llun, Ffion Rees
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r wyl yn denu cannoedd o gystadleuwyr bod blwyddyn

Y dyddiad newydd ar gyfer yr ŵyl yw Tachwedd 2022.

Dywedodd John Eifion Jones, trefnydd y Gwyliau Cerdd Dant, nad oedd dewis arall o gofio "yr ansicrwydd pryd y bydd partïon a chorau yn cael ail-ddechrau ymarfer".

"Er mwyn cynnal yr ŵyl yn llwyddiannus rydym angen cyfnod o amser i baratoi ac i gynnal gweithgareddau i godi arian, ond ar hyn o bryd nid yw'r amgylchiadau presennol yn caniatáu i ni wneud hynny yn ddiogel."

Pynciau cysylltiedig