Anaf i 15 teithiwr bws wedi gwrthdrawiad â char

  • Cyhoeddwyd
Safle'r gwrthdrawiad
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu wedi cau'r A487 yn ardal Bow Street, ger Aberystwyth, wedi'r gwrthdrawiad

Mae tua 15 o deithwyr bws wedi gorfod cael triniaeth gan barafeddygon wedi i'r cerbyd fod mewn gwrthdrawiad â char ger Aberystwyth.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A487 rhwng y dref a Bow Street tua 15:45.

Yn ôl y gwasanaeth ambiwlans fe gafodd nifer o bobl eu cludo i'r ysbyty.

Does dim lle i gredu bod unrhyw un wedi cael anafiadau sy'n peryglu bywyd, medd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn dargyfeirio traffig tra bod y ffordd ar gau ac mae yna apêl i yrwyr osgoi'r ardal.