Cynnal gwasanaethau Sul y Cofio ar draws y wlad
- Cyhoeddwyd
Ar Sul y Cofio mae pobl wedi dod ynghyd mewn digwyddiadau ar draws Cymru i nodi aberth yr unigolion a gafod eu lladd neu eu hanfu mewn rhyfeloedd byd.
Fe orymdeithodd aelodau'r lluoedd arfog trwy Gaerdydd cyn y Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol Cymru wrth Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra, Parc Cathays.
Ymhlith y dorf yna roedd cyn-filwyr, arweinwyr gwleidyddol a chynrychiolwyr sefydliadau sy'n gysylltiedig â gwrthdaro yn y presennol a'r gorffennol.
Roedd yna wasanaethau tebyg ar draws Cymru, gan gynnwys ym Mangor, Llandudno, Abertawe a Wrecsam.
Fe orymdeithiodd aelodau'r Awyrlu, y Fyddin, y Llynges Frenhinol, y Llynges Fasnach a chadetiaid heibio Neuadd y Ddinas tua'r gofeb ryfel.
Côr Gwragedd Milwrol Caerdydd a Chôr Meibion Parc yr Arfau wnaeth arwain y canu yn ystod y gwasanaeth.
Am 10:59, fe seiniodd fiwglwr o Fand Catrawd Brenhinol Cymru a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol y Caniad Olaf, cyn i Gatrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol, Casnewydd danio gwn i nodi dechrau cadw'r ddwy funud o dawelwch.
Roedd yna olygfeydd tebyg yng Nghaeau Coffa Castell Caerdydd ac o amgylch senotaffau o chofebau rhyfel ar draws Cymru, ac mae rhagor o ddigwyddiadau coffa'n cael eu cynnal yn ystod y prynhawn.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Mae gwasanaeth y cofio yn parhau i fod yr un mor berthnasol ag erioed, wrth i ddynion a menywod y lluoedd o Gymru chwarae eu rhan yn gwasanaethu ac yn cadw'r heddwch ar hyd a lled y byd," dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford.
"Ym mis Mehefin, fe wnaethom nodi 40 mlynedd ers gwrthdaro'r Falklands. Roedd hwn yn ddigwyddiad allweddol yn hanes Cymru a'r Deyrnas ac fe gofion ni am y rôl bwysig a chwaraeodd personél y lluoedd arfog o Gymru yn y gwrthdaro hwnnw.
"Rydym yn anrhydeddu'r cyfraniad anhunanol a wnaed gan bawb sydd wedi colli eu bywydau mewn gwrthdaro yn y gorffennol a'r presennol. Fe'u cofiwn hwy."
"Rydym yn cofio am y rhai a wnaeth yr aberth fwyaf ac na chafodd gyfle i fynd yn hŷn," dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots.
"Mae'r diwrnod yn ein hatgoffa pam mae'n bwysig i wahanol genedlaethau ddod ynghyd, i ganolbwyntio ar y pethau sy'n ein huno yn hytrach na'r pethau sy'n ein gwahanu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2022