Sut mae merch o India yn edrych ar addysg Gymraeg?
- Cyhoeddwyd
Ydych chi erioed wedi ystyried y ffordd mae'r Gymraeg yn cael ei haddysgu? A sut mae hynny yn cael dylanwad ar agwedd pobl tuag at yr iaith?
Efallai nad ydym ni fel Cymry sy'n siarad Cymraeg yn ystyried hyn gan ein bod yn ei gymryd yn ganiataol. Ond mae merch o India, coeliwch neu beidio, yn edrych ar y pwnc yn fanwl.
Daw Mohini Gupta o New Delhi ac ar hyn o bryd mae hi'n astudio doethuriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth iaith ac addysg yn India, ac fel rhan o'r ymchwil mae hi'n edrych ar yr iaith Gymraeg er mwyn cymharu.
Mae hi wedi treulio cyfnodau ym Mhrifysgol Aberystwyth, lleoliad sydd yn agos iawn at ei chalon:
"Yn fy amser yng Nghymru nes i fagu llawer o ddiddordeb yn niwylliant, iaith a barddoniaeth y wlad ac rwyf wedi bod yn dysgu Cymraeg ers cymryd diddordeb ym model addysg y llywodraeth. Mae o wedi fy ysbrydoli i weithio ar fy mhwnc doethuriaeth a rhoi ongl i mi edrych ar wleidyddiaeth iaith yn fy ngwlad fy hun."
Mae Cymru Fyw wedi holi Mohini Gupta am ddarganfyddiadau difyr ei hymchwil.
Wrth edrych ar addysg Gymraeg, beth yw rhai o'r prif elfennau ti wedi eu darganfod?
Rwyf wedi darganfod bod y ffordd mae'r Gymraeg yn cael ei ddysgu yn unigryw, yn rhyngweithiol ac yn arloesol.
Mae'r llywodraeth ac ysgolion yn cydweithio yn effeithiol i greu hunaniaeth newydd i'r iaith Gymraeg ymhlith pobl ifanc ac mae'n edrych fel petai 'na ymdrech i anghofio'r 'cywilydd' sy'n gysylltiedig â siarad yn y famiaith a chreu balchder newydd.
Un o'r pethau rwyf wedi cael fy ysbrydoli ganddo yw Bardd Plant Cymru. Rwy'n credu bod barddoniaeth yn arf ardderchog i wahodd myfyrwyr at broses ddysgu ddiddorol, ac mae gweithgareddau allgyrsiol fel hyn yn gwneud dysgu iaith yn broses llawer mwy deniadol.
Pa ieithoedd wyt ti'n edrych arnyn nhw yn India? Sut mae pethau yn cymharu i'r ymchwil yng Nghymru?
Rwy'n canolbwyntio ar addysg iaith Hindi mewn ysgolion yn India. Rwy'n cynnal ymchwil ar draws ysgolion preifat a chyhoeddus yn New Delhi i ddadansoddi dulliau mewn addysg iaith ar lefel gynradd. Rwy'n cynnal dadansoddiad manwl o werslyfrau Hindi a pholisïau iaith sy'n ymwneud â 'mamieithoedd' yn India hefyd.
Y gymhariaeth rydw i'n ceisio ei thynnu gydag addysg Gymraeg yw sut mae'r ddwy iaith yn ceisio aros yn berthnasol yn wyneb yr iaith ddominyddol, sef Saesneg.
Sut mae addysg iaith Hindi a'r Gymraeg yn cymharu?
Rwy'n credu bod y gwerslyfr Hindi yn cael ei greu gyda chymhelliant penodol i gyflwyno plant i syniad arbennig o 'India' a gosod set o werthoedd diwylliannol a thraddodiadol ynddyn nhw. Gall iaith y penodau hyn fod yn eithaf hynafol, a gall rhai gwersi fod fel petai'r athro yn pregethu, sy'n creu delwedd negyddol o'r iaith ymhlith disgyblion yn syth.
Rwy'n gweld bod addysg Gymraeg yn defnyddio barddoniaeth a straeon sy'n cynnwys creadigrwydd, dychymyg, cymeriadau ffantasi a hyd yn oed ddigwyddiadau o'u bywyd bob dydd, i wneud y broses dysgu iaith yn fwy perthnasol, cyfoes, a hefyd yn hwyl i ymgysylltu â hi.
Sut mae hyn yn dylanwadu ar agwedd plant at iaith?
Mae hyn yn dylanwadu ar agweddau plant tuag at iaith oherwydd unwaith y bydden nhw yn cysylltu iaith ag ymdeimlad o 'hwyl' neu fod yn 'cŵl', maen nhw'n dod i gysylltiad cadarnhaol â hi. Fel arall, mae tuedd i ddatgysylltu oddi wrth eu hieithoedd wrth iddynt fynd yn hŷn, a symud tuag at yr iaith fwy uchel ei pharch, fyd-eang a mwy 'cŵl' yn gymdeithasol, sef Saesneg.
Pam ei fod yn bwysig i warchod ieithoedd a sut mae agweddau at ddysgu Hindi, sydd a dros 500 miliwn o siaradawyr yn India?
Mae'n bwysig diogelu ieithoedd lleiafrifol o ystyried y cyfoeth o gof diwylliannol sydd wedi'i storio yn yr ieithoedd hyn. Mae iaith yn rhan hanfodol o hunaniaeth, ac mae hyn wedi'i brofi ar draws mudiadau iaith yn India a Chymru dros y degawdau diwethaf.
Mae'r gorllewin yn dueddol o roi mwy o werth ar 'unieithrwydd' ac mae cyfoeth amlieithog y byd yn herio'r syniad hwn. Yn hanesyddol, bu ymgais i ddileu ieithoedd er mwyn dileu hunaniaeth ddiwylliannol neu genedlaethol yn y pen draw, neu i reoli grŵp o bobl, a daw amddiffyn a chadwraeth yr iaith yn arf i wyrdroi'r oruchafiaeth hon.
Beth ydi rhai o'r darganfyddiadau mwyaf diddorol ti wedi dod ar eu traws?
Yn ystod fy ngwaith maes yn India, nes i ddarganfod bod gwahaniaeth enfawr mewn dulliau addysgu ar draws ysgolion sy'n addysgu drwy gyfrwng y Saesneg, a'r rhai sy'n addysgu drwy gyfrwng Hindi.
Rwyf wedi darganfod bod Hindi mewn safle unigryw yn India - mae'n colli allan i'r Saesneg yn gymdeithasol ac yn economaidd; ond mae'n cael ei orfodi'n wleidyddol ar grwpiau iaith eraill fel 'iaith genedlaethol' bosibl.
Hefyd o ddiddordeb: